Skip to main content
Coleg yn ennill yng Ngwobrau Hyfforddiant Prydain 2025!

Coleg yn ennill yng Ngwobrau Hyfforddiant Prydain 2025!

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch o gyhoeddi iddo gael ei enwi yn enillydd yng Ngwobrau Hyfforddiant Prydain 2025.

Mae Gwobrau Hyfforddiant Prydain yn ymgyrch flynyddol sy’n mynd ati i ddarganfod a dathlu’r timau a’r unigolion sy’n wirioneddol angerddol am rôl dysgu a datblygu wrth adeiladu gweithlu ffyniannus.

“Rydyn ni wrth ein boddau o fod wedi ennill gwobr Menter y Sector Cyhoeddus am ein ffocws parhaus ar hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r menopos yn y gweithle,” meddai Sarah King, Dirprwy Bennaeth Pobl a Lles.

“I gael Canmoliaeth Uchel yng nghategori Ymgyrch Ymwybyddiaeth y Flwyddyn hefyd yn dyst gwych i waith caled ac ymrwymiad ein tîm Adnoddau Dynol a Lles, sydd wedi datblygu rhaglen barhaus o sesiynau gwybodaeth, gweithdai a hyfforddiant proffesiynol am y pwnc.”

Dyma’r wobr ddiweddaraf mewn llinell hir o wobrau y mae’r tîm wedi’u hennill yn y blynyddoedd diwethaf, yn dilyn eu llwyddiant yng Ngwobrau CIPD, Gwobrau Adnoddau Dynol Prydain a Gwobrau Inside Out. Mae gwaith y Coleg o ran codi ymwybyddiaeth o’r menopos hefyd wedi cael sylw ar y newyddion pan gafodd Sarah ei gwahodd i gymryd rhan mewn cyfarfod bord gron arbennig yn 10 Downing Street i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod.

Eleni, cafwyd dros 360 o geisiadau gan sefydliadau o bob cwr o’r DU, ac felly roedd hi’n gystadleuaeth ffyrnig. Roedd y cwmnïau a gymerodd ran yn amrywio o fusnesau blaengar newydd i arwyr y sector cyhoeddus, arloeswyr technolegol, cewri byd-eang a phopeth arall rhyngddynt.

Ymhlith y sefydliadau sy’n ymuno â Choleg Gŵyr Abertawe i gystadlu am wobrau roedd Routes Healthcare, GAIL’s Bakery, BT Group a Deloitte.

Cafodd yr enillwyr eu datgelu mewn digwyddiad dathlu arbennig yn Covent Garden, Llundain, dan ofal y gomedïwraig Lucy Porter. Enillwyd gwobrau mewn amrywiaeth o gategorïau, gan gynnwys Menter Hyfforddiant y Flwyddyn, Menter Deallusrwydd Artiffisial mewn Dysgu y Flwyddyn, ac Arweinydd y Flwyddyn.

Mae beirniaid Gwobrau Hyfforddiant Prydain 2025 yn cynnwys:

•    Sally Baines, Cyfarwyddwr Talent, Datblygu a Dysgu yn OVO
•    Paul Buckland-White, Uwch Gyfarwyddwr Dysgu a Datblygu Byd-eang yn Smith+Nephew
•    Alistair Cumming, Pennaeth Dysgu a Datblygu/Rheoli Talent yn Lidl GB
•    Angela Davies, Pennaeth Dysgu a Datblygu yn AJ Bell
•    Shannon Drew, Pennaeth Dysgu a Datblygu yn Nuffield Health
•    Olive Gardiner, Cyfarwyddwr Dysgu a Datblygu yn Serco
•    Kate Large, Cyfarwyddwr Dysgu a Datblygu yn Mitie
•    Sarah Maclot, Cyfarwyddwr Dysgu a Datblygu Group
•    Keith McDougall, Cyfarwyddwr Byd-eang Dysgu a Datblygu yn Bupa
•    Chris McLaughlin, Uwch Reolwr Profiad Dysgu Byd-eang yn Booking.com
•    Jenny Morgan, Pennaeth Talent a Dysgu yn Starling Bank
•    Gemma Paterson, Pennaeth Arloesi Diwylliannol yn Lloyds Banking Group
•    Prachi Prasad, Pennaeth Byd-eang Arweinyddiaeth a Datblygu Dysgu yn dunnhumby
•    Jodie Pritchard, Cyfarwyddwr Dysgu a Datblygu yn Barnardo's
•    Karen Suddards, Rheolwr Dysgu Byd-eang yn Bentley Motors
•    Dr Paul Taylor-Pitt, Ymgynghorydd a Chyfarwyddwr Datblygu Sefydliadol yn Metamorphosish
•    Liggy Webb, Awdur, Cyflwynydd ac Ymgynghorydd

Dywedodd Nate Harwood, Sylfaenydd New Possible: "Mae angen i sefydliadau fod yn fwyfwy ystwyth, arloesol a chyflym – ac rydyn ni’n credu mai dysgu a datblygu yw’r catalydd ar gyfer hynny. Mae Gwobrau Hyfforddiant Prydain yn falch o ddathlu’r timau a’r unigolion eithriadol sy’n gwneud i hyn ddigwydd. Llongyfarchiadau i’r holl Enillwyr a’r rhai a gafodd Ganmoliaeth Uchel."

Cefnogir Gwobrau Hyfforddiant Prydain gan New Possible, platfform gwybodaeth i weithwyr. Mae New Possible yn helpu pobl i adeiladu sefydliadau iachach trwy ddarparu gwybodaeth ystyrlon sy’n gallu llywio newid go iawn.