Skip to main content
International students on the beach

Croesawu Ein Myfyrwyr Rhyngwladol Newydd

Braf yw croesawu nifer o fyfyrwyr rhyngwladol newydd y  flwyddyn academaidd hon o Tsieina, Lithwania, Fietnam a Brasil, ochr yn ochr myfyrwyr sy’n dychwelyd i’r Coleg o Tsieina, Hong Kong, Gwlad Thai a De Corea.

Er mwyn eu helpu i setlo yn y Coleg, fe wnaethon ni drefnu taith i Ganol Dinas Abertawe lle gwnaethon nhw gael cyfle i ymweld â thirnodau penodol, blasu bwyd Cymreig a mwynhau gweithgareddau hamdden. Yn ddiweddar fe aethon nhw i Benrhyn Gŵyr i weld Pen Pyrod a thraeth godidog Rhosili. Mae llawer o’r myfyrwyr hyn yn byw mewn dinasoedd prysur sy’n bell o’r arfordir, felly roedd y trip hwn yn gyfle arbennig iawn iddynt er mwyn gwerthfawrogi golygfeydd prydferth a threulio amser yn yr awyr agored.


Eleni, rydyn ni’n falch iawn o groesawu ein myfyrwyr cyntaf o Frasil. Mae naw myfyriwr wedi cael eu noddi gan Lywodraeth Brasil i astudio yng Ngholeg Gŵyr Abertawe i gael blas ar addysg yn y DU, gan wella eu sgiliau Saesneg ac archwilio cyrsiau nad ydynt fel arfer yn cael eu cynnig yn eu mamwlad. Cafodd y myfyrwyr dawnus hyn eu dewis o blith llawer o ymgeiswyr ac fe roedd y broses yn gystadleuol iawn. Dylent fod yn falch iawn o’r hyn maen nhw wedi ei gyflawni hyd yma.  Gobeithiwn y bydd y berthynas yn parhau, wrth i ni ddisgwyl mwy o fyfyrwyr i ymuno â ni flwyddyn nesaf. 


Mae ein myfyrwyr rhyngwladol yn gwneud y mwyaf o’u hamser hyd yn hyn - yn meithrin cyfeillgarwch â chyfoedion lleol, gwella eu sgiliau Saesneg ac ehangu dealltwriaeth ryngddiwylliannol. Maen nhw’n frwdfrydig ac yn dilyn targedau uchelgeisiol o ran eu hastudiaethau ar ôl Coleg Gŵyr Abertawe. Rydyn ni’n gyffrous i weld sut y bydd y myfyrwyr hyn yn cyflawni cynnydd ac yn datblygu wrth astudio gyda ni.