Mae staff a myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe yn dathlu blwyddyn arall o gyflawniadau academaidd anhygoel yn 2025 mewn perthynas â chanlyniadau Safon Uwch a Galwedigaethol Lefel 3.
Eleni, gwelwyd cynnydd yn y gyfradd basio ar gyfer Safon Uwch yn y Coleg i 100% (cyfartaledd cenedlaethol Cymru yw 97.5%), gyda 1250 o gofrestriadau arholiadau unigol.
Roedd 12% o’r canlyniadau hyn yn raddau A* (cynnydd o 9% o gymharu â 2024 ac yn uwch na chyfradd genedlaethol Cymru o 10.5%). Roedd 34% yn raddau A*- A (cyfradd genedlaethol Cymru yw 29.5%) ac roedd 65% yn raddau A*- B. Gwelwyd cynnydd hefyd yn ein graddau A*- C (85%), sy’n adlewyrchiad o safonau cyflawni rhagorol y Coleg.
Y gyfradd basio gyffredinol ar gyfer Safon UG eleni yw 94% (Cyfartaledd cenedlaethol Cymru yw 90.9%). Roedd 73% o’r graddau hyn yn raddau A-C a 54% ohonynt yn raddau A-B. Roedd 30% o’r graddau hyn yn raddau A (o gymharu â chyfartaledd cenedlaethol Cymru o 22.7%). Roedd 2127 o gofrestriadau arholiadau unigol ar gyfer Safon UG eleni.
Mae canlyniadau galwedigaethol y Coleg yn gryf iawn eto eleni, gyda chyfradd basio o 98% ar draws cyrsiau Lefel 3 dwy-flynedd. Ymhlith y perfformwyr gorau, sicrhaodd 9% o fyfyrwyr Rhagoriaeth Uchaf*.
Mae’r canlyniadau yma yn amlygu ymrwymiad y Coleg i ddarparu addysg alwedigaethol o ansawdd uchel, gan sicrhau bod ein dysgwyr yn cyflawni llwyddiant a safonau uchel.
“Rydyn ni’n gwybod bod ein myfyrwyr wedi gweithio’n galed iawn i sicrhau canlyniadau gwych ac rydyn ni’n hapus iawn i rannu eu llwyddiant a dathlu ochr yn ochr â nhw heddiw,” dywedodd Kelly Fountain, Prif Swyddog gweithredol y Coleg. “Mae sicrhau cyfradd basio o 100% yn gyflawniad gwych i’r Coleg ac rydyn ni’n falch hefyd o weld cynydd yn y graddau A* ac A* - A. Mae hyn yn adlewyrchiad o’n hymrwymiad i ragoriaeth academaidd.
“Yn ogystal â chynnal safonau uchel iawn o ran cyfraddau pasio Safon Uwch a Safon UG, mae ein myfyrwyr galwedigaethol wedi sicrhau canlyniadau rhagorol.
“Llongyfarchiadau i’r holl fyfyrwyr sy’n casglu eu canlyniadau heddiw, a phob lwc iddynt. Diolch o galon i holl staff Coleg Gŵyr Abertawe sy'n gweithio’n ddiflino i gynnig cymorth i'n dysgwyr yn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt.
"Gobeithiaf fod pawb wedi derbyn y canlyniadau roedden nhw’n eu disgwyl fel eu bod yn gallu symud ymlaen i’w cam nesaf, ond, os na wnaethoch chi, peidiwch â phoeni. Rydyn ni yma i helpu. Dewch i gael sgwrs â ni - mae gennym staff ymroddedig sy’n cynnig cymorth ac arweiniad personol i ddysgwyr.
“Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe rydyn ni’n falch o gynnig ystod eang o lwybrau i gefnogi uchelgeisiau pob dysgwr. O gyrsiau Safon Uwch i brentisiaethau a chymorth cyflogadwyedd i’r rhai sy’n dymuno symud yn syth i fyd gwaith - ein nod yw sicrhau bod pob dysgwr yn derbyn mynediad at gyfleoedd sy’n addas i’w nodau nhw. Rydyn ni’n parhau i fod yn ymrwymedig i helpu unigolion gyflawni eu potensial llawn fel y gallant lwyddo ar ba bynnag llwybr y maent yn ei ddilyn.”
“Mae heddiw uchafbwynt sy’n adlewyrchu eich gwaith caled a’ch ymroddiad - byddwch yn falch o’ch cyflawniadau a’ch datblygiad personol,” dywedodd Rebecca Evans, AS y Gŵyr.
“Diolch i’r athrawon a’r staff cymorth sydd wedi arwain, ysgogi a chefnogi ein myfyrwyr. Mae eich ymroddiad wedi eu helpu i gyflawni eu potensial, gan agor drysau newydd a sicrhau cyfleoedd cyffrous ar gyfer y dyfodol.”
“Llongyfarchiadau mawr i fyfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe sy’n derbyn eu canlyniadau heddiw,” ychwanega Torsten Bell, AS Gorllewin Abertawe. “Tu ôl i bob canlyniad mae misoedd a blynyddoedd o waith caled, yn ogystal â chymorth gan athrawon a staff eraill. Da iawn! Ni all unrhyw un gymryd yr hyn rydych chi wedi'i gyflawni heddiw oddi wrthych chi. P'un a ydych chi yn symud ymlaen i’r brifysgol neu fyd gwaith, neu yn aros yn Abertawe ai peidio, rwy'n gobeithio y bydd y cam nesaf ar eich taith yn un gwerth chweil ac yn llawn balchder a phwrpas.”
"Hoffai ColegauCymru longyfarch dysgwyr Coleg Gŵyr Abertawe a dysgwyr ledled Cymru heddiw wrth iddynt dderbyn canlyniadau, yn dilyn eu gwaith caled a’u hymroddiad," meddai Prif Weithredwr ColegauCymru, David Hagendyk. "Mae cyrraedd y rhan hon o’r daith yn golygu bod dysgwyr wedi dangos penderfyniad a gwydnwch, ond maent hefyd wedi derbyn cymorth di-baid gan staff ar draws llwybrau galwedigaethol ac academaidd. Llongyfarchiadau i bawb yng Ngholeg Gŵyr Abertawe ar eich cyflawniadau - dylech fod yn hynod o falch."
Ymhlith y myfyrwyr sy’n casglu eu canlyniadau mae:
Alex Barnett (gyn-ddisgyblion Ysgol Gymunedol Hengoed) a sicrhaodd Rhagoriaeth ar ôl astudio Diploma Proffesiynol UAL Lefel 4 mewn Perfformio. Bydd e’n mynd i Goleg Rose Bruford i astudio Celfyddydau Theatr Ewropeaidd.
Derbyniodd Jessica Bevan (gyn-ddisgyblion Ysgol Olchfa) raddau A* triphlyg yn y Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau, a bydd hi’n mynd i’r brifysgol i astudio Therapi Iechyd Galwedigaethol.
Sicrhaodd Aaron John ABB yn y Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol a bydd yn mynd i Brifysgol Lancaster.
Derbyniodd Jessica Johnson (un o gyn-ddisgyblion Ysgol Penyrheol) A fel rhan o’i hastudiaethau GChDDP: Ymarfer a Theori a bydd yn mynd yn syth i fyd gwaith fel cynorthwyydd addysgu mewn ysgol gynradd leol.
Sicrhaodd Alex Mort (un o gyn-ddisgyblion Ysgol Gyfun Treforys) tair gradd A* a bydd symud ymlaen i astudio Peirianneg ym Mhrifysgol Caergrawnt.
Derbyniodd Caerwyn Richards (gyn-ddisgyblion Ysgol Tregŵyr) Ragoriaeth yn y Diploma Estynedig BTEC Lefel 3 mewn Peirianneg Gweithgynhyrchu Uwch. Bydd yn astudio gyda British Airways yng Nghaerdydd i ddechrau gyrfa mewn cynnal a chadw awyrennau.
Fe wnaeth Alexander Rigbey sicrhau tair gradd B mewn cwrs Gofal, Chwarae, Dysgu, a Datblygiad Plant ac mae e wedi sicrhau lle ym mhrifysgol Abertawe i astudio Plentyndod Cynnar.
Mae Rosie- Ann Rune, a astudiodd Teithio a Thwristiaeth yn y Coleg yn mynd i Brifysgol Bath Spa i astudio Ysgrifennu Creadigol.
Llwyddodd Steffi Saji (un o gyn-ddisgyblion Ysgol Gyfun Gatholig St Ioan) i sicrhau gradd A* a thair gradd A. Bydd yn symud ymlaen i astudio Meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.
Sicrhaodd Leah Spackman (un o gyn-ddisgyblion Ysgol Gyfun Penyrheol) ddwy radd A* a bydd yn mynd i Brifysgol Caergrawnt i astudio Addysg.
Derbyniodd Kara Thomas, A* ar ôl cwblhau'r Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol a bydd yn mynd i Brifysgol Abertawe i astudio Seicoleg.
Llwyddodd Lois Travers (un o gyn-ddisgyblion Ysgol Bishop Gore) i gwblhau cwrs Busnes Lefel 3 a bydd hi yn symud ymlaen i Brifysgol Abertawe i astudio Rheolaeth Fusnes a Chyllid.
Sicrhaodd Leri Watkins (un o gyn-ddisgyblion Ysgol Bryngwyn) gymhwyster GChDDP: Ymarfer a Theori a bydd yn mynd yn syth i fyd gwaith fel ymarferydd meithrinfa.
Fe wnaeth Libby Wittey ac Olivia Griffiths - sy’n ffrindiau da - dderbyn graddau A* triphlyg mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygu a byddant yn symud ymlaen i Brifysgol Abertawe i astudio Seicoleg Addysg.