Fel rhan o Wythnos Prentisiaethau Cymru 2026, mae Pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe, Paul Kift, yn tynnu sylw at fanteision prentisiaethau i ddysgwyr, cyflogwyr ac economi ehangach Cymru
Yn yr economi sy’n cyflym esblygu heddiw, mae busnesau’n wynebu pwysau cyson i aros yn gystadleuol, arloesol a chynhyrchiol. Un strategaeth hynod effeithiol yw prentisiaethau ac, yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, rydym yn gweld yn ddyddiol yr effaith drawsnewidiol y maen nhw’n ei chael ar fusnesau ledled Cymru.
Mae prentisiaethau wedi symud y tu hwnt i rolau galwedigaethol traddodiadol ac erbyn hyn maen nhw’n cynnwys llwybrau mewn arweinyddiaeth, rheolaeth a sectorau proffesiynol. Mae prentisiaethau gradd hefyd yn llywio cynhyrchedd a llwyddiant busnes. Mae cyflogwyr yn gynyddol yn adnabod eu gwerth strategol: mae prentisiaethau yn helpu i siapio talent, pontio bylchau sgiliau, gwella cyfraddau cadw a lleihau costau recriwtio.
Rydym yn cydweithredu gyda 673 o gyflogwyr ac yn cefnogi bron 3,000 o brentisiaid bob blwyddyn, gan deilwra rhaglenni a chyd-greu atebion hyfforddi sy’n cyd-fynd â nodau sefydliadol. Mae ein darpariaeth wedi cael ei chydnabod ar lefel genedlaethol, gan gynnwys gwobrau gan y Gynhadledd Brentisiaethau Flynyddol a Gwobrau AB TES, a chyrraedd rhestr fer 2026 am Amrywiaeth a Chynhwysiant.
Uwchsgilio ac ailsgilio trwy brentisiaethau
Nid yw prentisiaethau ar gyfer gweithwyr newydd yn unig – maen nhw’n ffordd bwerus o ddatblygu’r staff sydd eisoes gennych. Wrth i fyd diwydiant addasu i dechnolegau newydd a galw sy’n newid, mae prentisiaethau yn rhoi ateb strwythuredig a chost-effeithiol i sgiliau a recriwtio.
Rydym yn partneru â busnesau yng Nghymru benbaladr i ddylunio rhaglenni wedi’u teilwra ar gyfer gweithwyr. Mae cyflogwyr gan gynnwys Admiral, GE Aviation, TUI, Ecolab a Bluestone yn elwa ar ein darpariaeth, ochr yn ochr â busnesau bach a chanolig, microfusnesau a sefydliadau sector cyhoeddus Cymru.
Atebion wedi’u teilwra ar gyfer pob busnes
A ninnau’n ddarparwr arobryn, mae Coleg Gŵyr Abertawe yn gweithio gyda busnesau o bob maint, gan gyflwyno rhaglenni sy’n hyblyg, ymatebol, ac yn cyd-fynd â safonau diwydiant. Mae ein darpariaeth yn cynnwys sectorau fel:
Digidol a TG: Yn rhoi sylw i fylchau sgiliau technegol gyda rhaglenni mewn datblygu meddalwedd, cyfryngau digidol a sgiliau digidol ar gyfer busnes.
Gweinyddu Busnes ac Arweinyddiaeth: Yn gwella effeithlonrwydd gweithredol ar draws byd diwydiant.
Rheoli Cyfleusterau: Yn cwmpasu ystadau gweithredol a rheoli diogelwch.
Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Yn hyfforddi gofalwyr medrus i gefnogi cymunedau.
Chwalu rhwystrau
Er gwaethaf y manteision amlwg, mae rhai busnesau’n petruso oherwydd yr heriau ymddangosiadol. Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, rydym yn mynd i’r afael â’r pryderon hyn yn uniongyrchol trwy’r canlynol:
Gweinyddu syml: Mae ein tîm yn rheoli’r paratoadau a’r gwaith papur.
Hyfforddiant wedi’i deilwra: Rydym yn cyd-greu rhaglenni pwrpasol wedi’u teilwra i’ch anghenion penodol.
Cyngor ar gyllid: Rydym yn helpu busnesau i lywio opsiynau cyllid a chael gafael ar grantiau.
Y ffordd ymlaen
Yn fwy nag erioed, mae prentisiaethau yn arf ar gyfer twf. Trwy fuddsoddi ynddynt, nid yn unig y mae busnesau yn mynd i’r afael â heriau heddiw ond maen nhw’n adeiladu gweithlu gwydn ar gyfer y dyfodol hefyd.
Energybuild Ltd yn creu gwerth £1.2 miliwn o fuddion blynyddol trwy hyfforddiant wedi’i ariannu’n llawn
Mae prentisiaethau’n cael yr effaith fwyaf pan fyddan nhw’n rhan o ddiwylliant ehangach o arferion datblygu gweithlu a gwella parhaus. Ochr yn ochr â llwybrau prentisiaeth ffurfiol, mae Coleg Gŵyr Abertawe yn gweithio gyda chyflogwyr i ddarparu hyfforddiant proffesiynol sy’n gwella perfformiad gweithredol wrth gyfrannu at gryfder economi ehangach Cymru.
Mae ein partneriaeth ag Energybuild Ltd yn dangos sut mae hyfforddiant wedi’i dargedu ac wedi’i ariannu’n llawn yn gallu arwain at enillion cynhyrchedd ac ariannol mesuradwy. Trwy gymwysterau Technegau Gwella Busnes, fe wnaeth gweithwyr ddatblygu sgiliau gwella darbodus a pharhaus ymarferol a’u cymhwyso i brosesau mewn gweithleoedd go iawn.
Roedd y canlyniadau’n sylweddol. Fe wnaeth gwell effeithlonrwydd a chynnydd mewn cynhyrchedd greu rhyw £1.2 miliwn mewn buddion ariannol blynyddol, gan gyfuno arbedion cost sylweddol â chapasiti cynhyrchu uwch.
Os ydych chi’n ystyried datblygu’ch busnes ymhellach, e-bostiwch training@gcs.ac.uk