Skip to main content
Gwobrau Addysg Oedolion Ysbrydoli! 2025

Gwobrau Addysg Oedolion Ysbrydoli! 2025

Roedd Coleg Gŵyr Abertawe yn falch iawn o fynd i Wobrau Addysg Oedolion Ysbrydoli! eleni.

Yn ogystal, cafodd ein Prif Swyddog Gweithredol, Kelly Fountain, ei gwahodd i roi anerchiad croeso yn y digwyddiad arbennig yn Neuadd Brangwyn, Abertawe.

Fel Coleg, rydym yn ymrwymedig i ysbrydoli dysgwyr o bob oedran ac roeddem yn falch dros ben o gefnogi’r digwyddiad anhygoel hwn sy’n dathlu addysg oedolion. Fel Dinas Dysg UNESCO, mae Abertawe bob amser wedi cael ei chydnabod am ei hymrwymiad i addysg, arloesedd ac ysbryd cymunedol.

Mae Gwobrau Ysbrydoli! yn cydnabod grym trawsnewidiol addysg a’r unigolion arbennig a’r prosiectau cymunedol sy’n ymgorffori angerdd, dyfalbarhad a thrawsnewid trwy ddysgu. Mae Gwobrau Ysbrydoli! yn cynrychioli rhywbeth gwirioneddol ryfeddol – maen nhw’n taflu goleuni ar ddewrder, penderfyniad a llwyddiant oedolion sydd wedi dewis trawsnewid eu bywydau trwy addysg. Mae’r gwobrau hyn yn cydnabod nid yn unig cyflawniad academaidd, ond y teithiau personol anhygoel, y rhwystrau a wynebwyd a storïau trawsnewid ysbrydoledig y mae pob enwebai yn eu cynrychioli.

“Fel eiriolwr angerddol dros ddysgu gydol oes, roeddwn i wrth fy modd o fod yn rhan o Wobrau Ysbrydoli! eleni,” meddai Kelly.
“Roedd hi’n wirioneddol ostyngedig clywed storïau ysbrydoledig yr enillwyr. Mae digwyddiadau fel y rhain yn ein hatgoffa o’r effaith ddofn y gall addysg ei chael, nid yn unig ar  unigolion, ond hefyd ar deuluoedd, gweithleoedd a chymunedau cyfan.”

Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, rydyn ni hefyd yn falch o arwain Partneriaeth Dysgu Oedolion Abertawe (ALPS), cydweithrediad rhanbarthol sy’n hyrwyddo cyfleoedd dysgu gydol oes i oedolion ar draws ardal Bae Abertawe.

Fel Cadeirydd balch iawn o ALPS yma yn Abertawe, rydym yn deall pwysigrwydd hanfodol y bartneriaeth dysgu oedolion sy’n dod â’r canlynol ynghyd: Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes Cyngor Abertawe, Addysg Oedolion Cymru, Menter Iaith Abertawe, Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe, Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Choleg Gŵyr Abertawe.

Drwy ein gwaith cydweithredol, gallwn weld sut mae addysg oedolion yn trawsnewid bywydau ac yn cryfhau ein cymuned bob dydd.