Skip to main content
Gwobrau Myfyrwyr Blynyddol Coleg Gŵyr Abertawe 2025

Gwobrau Myfyrwyr Blynyddol Coleg Gŵyr Abertawe 2025

Mae myfyrwyr a staff o Goleg Gŵyr Abertawe wedi ymgasglu i ddathlu blwyddyn wych arall o ragoriaeth academaidd a galwedigaethol.

Dychwelodd Kev Johns MBE i’r llwyfan yn Stadiwm Swansea.com i gyflwyno’r noson, lle rhoddwyd gwobrau i fyfyrwyr o amrywiaeth o gyrsiau amser llawn a rhan-amser, prentisiaethau, llwybrau addysg uwch, cyrsiau mynediad a rhaglenni cymorth cyflogadwyedd.

Roedd y gwobrau yn arddangosfa ymarferol o ddoniau staff a myfyrwyr lle darparwyd y set, y goleuadau a’r sain gan y tîm Cynhyrchu Theatr a Digwyddiadau Byw Lefel 3.

Darparwyd yr adloniant gan y myfyriwr Safon Uwch Cerddoriaeth, Saesneg Llenyddiaeth, Gwareiddiad Clasurol a Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch Isobel Mcneill, a’r myfyriwr Diploma Lefel 3 mewn Perfformio a Chynhyrchu Cerdd Kara Wood.

Wrth law hefyd roedd tîm Effeithiau Arbennig Theatrig, Gwallt a Cholur y Cyfryngau, a dretiodd westeion i sioe Anifeiliaid arbennig.

“Mae Coleg Gŵyr Abertawe bob amser wedi cael un o’r proffiliau gorau ymhlith unrhyw sefydliad addysg, nid yn unig yng Nghymru ond ledled y DU,” meddai’r Pennaeth Kelly Fountain. “Cyflawnwyd hyn i gyd o ganlyniad i ymrwymiad ac ymroddiad rhagorol ein myfyrwyr - pob un o’r 13,000 ohonynt bob blwyddyn - a’n staff, ac mae’r achlysur heno yn dathlu’r llwyddiant hwnnw, wrth i ni dalu teyrnged i’r goreuon.”

Siaradwr gwadd y noson oedd cyn-fyfyriwr Coleg Gŵyr Abertawe Alex Callender sy’n chwarae fel blaenasgellwr yn nhîm Rygbi Undeb Menywod Cymru a Harlecwiniaid Merched, ar ôl ennill ei chap cyntaf dros Gymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2019.

Ar ddiwedd y noson, cafwyd cyflwyniad arbennig i’r Prif Swyddog Gweithredol Mark Jones MBE sy’n ymddeol yn yr haf ar ôl gyrfa hir a nodedig ym myd addysg.

Fel cofrodd, rhoddwyd darn gwreiddiol o waith celf i Mark gan y cyn-fyfyriwr Diploma Sylfaen Lefel 3 mewn Celf a Dylunio Wanesa Kazmierowska a oedd yn darlunio holl gampysau’r Coleg. Yn ogystal, rhoddwyd dau grys rygbi iddo – un o’r flwyddyn yr ymunodd â’r Coleg fel Pennaeth yn 2013, ac un o 2025.

Dyma enillwyr 2025 yn llawn::

Addysg Sylfaenol i Oeolion/ESOL Myfyriwr y Flwyddyn –  Nataliia Mikulska
Gwobr Bernie Wilkes Gwallt, Harddwch a Holisteg - Myfyriwr y Flwyddyn – Chloe Clarke 
Lletygarwch, Teithio a Thwristiaeth - Myfyriwr y Flwyddyn – Lucy Green
Sgiliau Byw’n Annibynnol - Myfyriwr y Flwyddyn – Karleigh West
Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus - Myfyriwr y Flwyddyn – Ophelia Furbank
Y Celfyddydau Gweledol - Myfyriwr y Flwyddyn – Tia Walters
Busnes - Myfyriwr y Flwyddyn – Brendon Thomas
Y Celfyddydau Creadigol - Myfyriwr y Flwyddyn – Carys Morgan
Y Dyniaethau ac Ieithoedd- Myfyriwr y Flwyddyn  – Anwen Rodaway
Mathemateg, Gwyddoniaeth a Gwyddor Gymdeithasol - Myfyriwr y Flwyddyn – Leah Spackman 
Technoleg - Myfyriwr y Flwyddyn – Maksym Klivenko
Peirianneg - Myfyriwr y Flwyddyn  – Jack Shipley
Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant - Myfyriwr y Flwyddyn – Sarah James
Amgylchedd Adeiledig - Myfyriwr y Flwyddyn – Seymour Thomas
Prentis y Flwyddyn  – Ashleigh Johnson
Llwyddiant Chwaraeon Rhagorol y Flwyddyn – Caleb Demery
Partner Cyflogwr y Flwyddyn – Pobl Group
Gwobr Elaine McCallion Hyfforddiant GCS - Myfyriwr y Flwyddyn – Dawne Meynell-Western
Rhyngwladol - Myfyriwr y Flwyddyn – Winnie Lui
Mynediad - Myfyriwr y Flwyddyn – Ria Hammond-Smith
Gwobr Holly Donohoe - Addysg Uwch - Myfyriwr y Flwyddyn – William Evans
Yr Iaith Gymraeg - Myfyriwr y Flwyddyn – Lily Kearney
Cyflogadwyedd - Cleient y Flwyddyn – Levi Watts
Dilyniant ac Ymrwymiad - Myfyriwr y Flwyddyn  – Mia Southard
Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch Myfyriwr y Flwyddyn – Katie Richards

Myfyriwr Ysbrydoledig y Flwyddyn - Sarah James

Diolch yn fawr iawn i bob un o’n noddwyr 2025:

Amroc Group Limited 
AtkinsRéalis 
Bardic Construction
Blake Morgan
Bowen Hopkins Limited
Kelly Fountain
Get Yourself Noticed
GJ Willett and Sons
Greenwood Projects
Gyngor Abertawe
Hengoed Care
Knox and Wells
Mark Jones MBE
Prifysgol Abertawe
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
reThink PR and Marketing
RW Learning
South Wales Transport
The Cusp
University of Wales Trinity Saint David
WalesOnline
Waters Creative