Cyrhaeddwch eich sesiwn gofrestru ar amser er mwyn ein helpu i’ch croesawu chi yn ddidrafferth.
Gwiriwch eich e-byst a chwblhewch y wybodaeth Paratoi ar gyfer y Coleg gan ddilyn y cyfarwyddiadau yn yr e-bost a anfonwyd.
Os nad ydych yn gallu dod neu os oes unrhyw ymholiadau gennych, ffoniwch y Tîm Derbyn: admissions@gcs.ac.uk
Bydd angen y canlynol arnoch:
- Eich canlyniadau TGAU (fyddwch chi ddim yn gallu cofrestru hebddynt).
- Ffi gofrestru £40 (arian parod, siec neu gerdyn) nad yw’n ad-daladwy.
- Math o brawf adnabod h.y. pasbort, tystysgrif geni neu gerdyn banc.
- Eich Rhif Yswiriant Gwladol (os yw’n berthnasol).
- Eich cais am gyllid os ydych yn credu y gallech chi fod yn gymwys i gael cymorth ariannol (gweler isod).