Roedd Hetiau Caled a Choffi Cynnes yn gyfle i unigolion a sefydliadau o fewn y diwydiant ddod ynghyd yn Ysgol Fusnes Plas Sgeti i ganolbwyntio ar siapio dyfodol amgylchedd adeiledig.
Croesawodd y Coleg gyflogwyr o'r rhanbarth gan gynnwys Morganstone, Andrew Scott, Cyfle, CP Engineering, James Brothers Co a Chyngor Abertawe, ynghyd ag arbenigwyr sector, i gydweithio, rhannu safbwyntiau a dylanwadu ar drywydd hyfforddiant adeiladu a'r amgylchedd adeiledig ledled Cymru.
Yn y digwyddiad, fe wnaeth Hannah Pearce, Rheolwr Maes Dysgu Coleg Gŵyr Abertawe ar gyfer yr Amgylchedd Adeiledig, gyflwyno cyfleoedd hyfforddi newydd i fusnesau. Hefyd, derbyniodd cyflogwyr y wybodaeth ddiweddaraf am opsiynau ariannu cyfredol a chawsant wybod am y newidiadau sydd ar y gweill i gymwysterau perthnasol.
Roedd y digwyddiad yn gyfle gwerthfawr i sefydliadau ac unigolion o fewn y sector leisio eu barn ar faterion allweddol, gan gynnwys y cymwysterau sydd ar gael a'r posibilrwydd o ailgyflwyno darpariaeth Lefel 2, fel sydd eisoes wedi cael ei drafod yn ddiweddar yn y Senedd.
Ymhlith y siaradwyr gwadd roedd Wyn Prichard, ymgynghorydd arbenigol, hyrwyddwr y diwydiant a chyn Gyfarwyddwr Cymru CITB - cynigiodd sgwrs ysgogol iawn. Hefyd, cafodd Evolution Not Revolution, Mark Whitby (CITB) a rhwydwaith cyflogwyr CITB eu gwahodd i’r digwyddiad fel siaradwyr gwadd, a derbyniodd y cyfranogwyr wybodaeth fewnweledol am ddatblygiadau cyfredol.
Roedd Paul Kift, Pennaeth Dros Dro Coleg Gŵyr Abertawe, wrth ei fodd yn croesawu cyflogwyr allweddol i'r digwyddiad, ac fe soniodd am rôl hanfodol partneriaethau o fewn y diwydiant:
"Ein blaenoriaeth yw gweithio ochr yn ochr â chyflogwyr i sicrhau bod ein cwricwlwm yn cyd-fynd ag anghenion y gweithlu yn y dyfodol. Drwy fynd i'r afael â bylchau mewn sgiliau, gallwn rymuso dysgwyr â'r arbenigedd angenrheidiol sydd ei angen arnynt i helpu busnesau i ehangu a ffynnu. Mae cydweithio yn hanfodol, yn enwedig o fewn y sector amgylchedd adeiledig ac mae’n rhan hollbwysig o feithrin talent gynaliadwy a chefnogi llwyddiant hirdymor y diwydiant."
Cytunodd Wyn Pritchard, trwy nodi:
“Fel unigolyn sydd wedi bod yn ymwneud â sgiliau a hyfforddiant ers dros 3 degawd, anrhydedd oedd bod yn rhan o'r digwyddiad rhagorol hwn.
Mae’r diwydiant adeiladu yn esblygu ac mae’r sector amgylchedd adeiledig hefyd wedi dod i’r amlwg yn ddiweddar, sy’n golygu ein bod wedi gorfod ymgysylltu ag eraill ymhellach, gan ennill gwell dealltwriaeth ar hyd y ffordd, ac mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi ymateb i'r her honno.
Heddiw, mae’n hollbwysig ein bod yn rhoi sgiliau i unigolion a busnesau fell y gallant ffynnu mewn byd sy’n newid yn barhaus, gan ymgyfarwyddo â DA, technolegau newydd a chynaliadwyedd.
Mae buddsoddi mewn pobl yn hanfodol, ond heb gwmnïau cadarn a gwydn ein rhanbarth, ni fyddai modd i unigolion wireddu eu potensial llawn. Ond trwy dyfu ar y cyd gallwn wneud y mwyaf o arloesedd, cyfleoedd a chael effaith barhaol.’’
I ddarganfod sut y gall Coleg Gŵyr Abertawe eich helpu i hyfforddi eich gweithlu, ffoniwch 01792 284400 neu e-bostiwch training@gcs.ac.uk.