Ymuna â ni ar ein stondin (97-98) ar faes yr Eisteddfod ym Mharc Margam yr wythnos nesaf, lle byddi di’n yn cael cyfle i sgwrsio â myfyrwyr a staff, darganfod yr amrywiaeth o gyrsiau rydyn ni’n eu cynnig a chymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol a hwyl.
Mae gennym rywbeth at ddant pawb - gweithdai byw lle galli di greu potiau blodau, weldio rhithwir, peintio wynebau a phedlo beiciau wat. Archwilia brofiadau DA (VR) anhygoel a gwna’r mwyaf o’r byd Echwaraeon. Bydd digon o weithgareddau ar gael i blant ifanc hefyd!
Wyt ti’n ansicr o ran y camau nesaf ar ôl ysgol? Wyt ti eisiau dychwelyd i addysg neu uwchsgilio o fewn dy rôl bresennol? Bydd ein staff arbenigol ar gael i drafod popeth, o gyrsiau Safon Uwch a chymwysterau galwedigaethol i brentisiaethau, cyrsiau rhan-amser a hyd yn oed cyfleoedd lefel Prifysgol.
Yn ogystal â hyn, bydd myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe yn cymryd rhan mewn cystadlaethau cyffrous, gan gynnwys dawnsio creadigol, cyfansoddi cerddoriaeth a chanu.
Bydd ein stand wrth ymyl y swyddfa gofrestru - Stondin 97-98. Paid â cholli cyfle i gael hwyl - dere draw i ddweud helô! Dyma map or maes Eisteddfod.
I dderbyn diweddariadau ac uchafbwyntiau, dilyn @cymrycoleggwyrabertawe i gadw i fyny â beth sy’n digwydd bob dydd!
