Skip to main content
Coleg yn cipio Gwobr Hyfforddiant y Dywysoges Frenhinol

Coleg yn cipio Gwobr Hyfforddiant y Dywysoges Frenhinol

Coleg yn cipio Gwobr Hyfforddiant y Dywysoges Frenhinol

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi ennill Gwobr Hyfforddiant nodedig y Dywysoges Frenhinol am gyrraedd safon rhagoriaeth mewn hyfforddiant a lles yn y gweithle trwy ei fenter cymorth menopos.

Mae Gwobrau Hyfforddiant y Dywysoges Frenhinol yn anrhydeddu sefydliadau sy’n dangos ymrwymiad rhagorol i ddysgu a datblygu, ac eleni maen nhw’n dathlu degawd o ragoriaeth hyfforddiant.

Yn cyd-ddigwydd â phen-blwydd Ei Huchelder y Dywysoges Frenhinol yn 75 oed, roedd degfed flwyddyn y Gwobrau wedi cael 143 o geisiadau, gyda 57 yn ennill y wobr fawreddog. 

Ymhlith y storïau llwyddiant hynny mae Coleg Gŵyr Abertawe, a enillodd am ei fenter arloesol Trawsnewid Lles yn y Gwaith.

Wedi’i dylunio gan ymgynghori â staff a dan arweiniad y Dirprwy Bennaeth Pobl a Lles, Sarah King, cyflwynodd y rhaglen ddull triphlyg o godi ymwybyddiaeth o’r menopos ar draws y sefydliad: arbenigedd clinigol gan arbenigwyr arweiniol yn Newson Health; hyfforddiant ymwybyddiaeth ar draws y sefydliad; a’r defnydd o Balance+, ap blaengar sy’n helpu staff i olrhain a rheoli symptomau.

Denwyd diddordeb y cydweithwyr gwryw hefyd trwy’r Menovest, dyfais arloesol y gellir ei gwisgo sy’n efelychu symptomau’r menopos i godi empathi a dealltwriaeth.

Bu’r canlyniadau yn y Coleg yn drawsnewidiol. Mae absenoldeb cysylltiedig â’r menopos wedi lleihau 70% ac mae trosiant staff hefyd wedi gostwng, gyda chyfranogwyr yn dweud bod eu hiechyd a’u gallu i ffynnu yn y gwaith wedi gwella’n sylweddol.

“Trwy chwalu stigma, ymgorffori arferion lles cynaliadwy a hyrwyddo cydraddoldeb rhywedd, ein nod yw creu diwylliant parhaol o empathi a chynwysoldeb yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yn ogystal â dangos ein hymroddiad i arloesedd ac effaith fesuradwy” meddai Sarah. “Rydyn ni wrth ein boddau o ennill Gwobr Hyfforddiant y Dywysoges Frenhinol, anrhydedd sy’n nodi’r Coleg fel arweinydd cenedlaethol mewn lles staff a rhagoriaeth sefydliadol.”

Mae Gwobrau Hyfforddiant y Dywysoges Frenhinol, sydd bellach yn dathlu degawd o ragoriaeth hyfforddiant, yn anrhydeddu sefydliadau sy’n dangos ymrwymiad rhagorol i ddysgu a datblygu, ac yn tynnu sylw at effaith wirioneddol hyfforddiant eithriadol ar fusnesau ac unigolion.

Lansiwyd yn 2016 mewn ymateb i’r galw gan gyflogwyr i gydnabod rhagoriaeth mewn hyfforddiant yn y gweithle, mae mwy na 1,000 o raglenni hyfforddi wedi cael eu cyflwyno i’w gwerthuso. Ers hynny, cyflwynwyd 415 o Wobrau i 274 o sefydliadau, sydd gyda’i gilydd wedi hyfforddi bron 1 miliwn o bobl, gan ddangos safle pellgyrhaeddol y Gwobrau mewn datblygu sgiliau ledled y DU ac Iwerddon.

Mae’r enillwyr eleni yn cynrychioli ystod eang o sectorau gan gynnwys adeiladu, lletygarwch, addysg a hyfforddiant, y sector cyhoeddus, nid-er-elw, a chrefftau treftadaeth.