Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer mewn dau gategori yng Ngwobrau nodedig STEM Cymru 2025.
Mae Gwobrau STEM Cymru yn tynnu sylw at y sefydliadau a’r unigolion sy’n gwneud gwahaniaeth i agenda STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg) yng Nghymru.
Mae gobaith i’r Coleg ennill dwy wobr – Rhaglen Addysgol STEM (Sector Cyhoeddus) a Menyw STEM y Flwyddyn.
Ar gyfer Rhaglen Addysgol STEM y Flwyddyn, mae’r Coleg wedi cael ei gydnabod am ei fenter Addysg a Thu Hwnt sy’n rhoi sylw i anghenion sgiliau’r sector STEM ac adeiladu wrth fynd i’r afael â rhwystrau economaidd-gymdeithasol rhanbarthol fel amddifadedd, presenoldeb gwael yn yr ysgol a dyheadau isel.
Wedi'i ariannu’n llwyr gan y Coleg, mae Addysg a Thu Hwnt yn canolbwyntio ar greu piblinellau talent lefel uchel trwy addysg a gwaith allgymorth cynhwysol, dan arweiniad cyflogwyr. Ers ei lansio, mae’r Coleg wedi ymgysylltu â dros 150 o gyflogwyr, mwy na 50 o staff ar draws pedair cyfarwyddiaeth, a nifer o gyrff dyfarnu i gyd-greu chwe llwybr sector newydd. Mae dros 160 o ddysgwyr eisoes wedi cael lleoliadau newydd, gyda 74 o gofrestriadau ychwanegol ar gyrsiau adeiladu rhan-amser newydd yn ystod blwyddyn academaidd 2023/24.
Mae’r nifer sy’n manteisio ar brentisiaethau adeiladu wedi cynyddu 28% tra bod nifer y myfyrwyr adeiladu llawn amser a rhan amser wedi cynyddu 15% yn gyffredinol. Mae’r fenter yn cefnogi grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn benodol fel menywod, disgyblion ysgol, oedolion economaidd anweithredol a’r rhai sy’n newid gyrfa. Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant wedi bod yn ganolog i’r fenter, gydag allgymorth ar draws canolfannau cymunedol, ysgolion a ffeiriau swyddi.
Yng nghategori Menyw STEM y Flwyddyn, mae Hannah Pearce wedi cyrraedd y rhestr fer i gydnabod ei hymroddiad parhaus i drawsnewid y diwydiant adeiladu.
Fel Rheolwr Maes Dysgu yr Amgylchedd Adeiledig, mae Hannah wedi ailddiffinio sut mae addysg a diwydiant yn cydweithredu i lywio arferion cynhwysol ar gyfer y dyfodol. Mae ei heffaith yn rhychwantu o’r safle i’r ystafell ddosbarth, sy’n dangos gwydnwch, arloesedd a dylanwad ar bob cam.
Yn beiriannydd sifil arloesol ac yn llysgennad dros STEM, mae Hannah wedi bod yn chwalu rhwystrau i fenywod ym maes adeiladu ers ei gyrfa gynnar gyda Laing O'Rourke. Mae cydweithredu fel rhan o dîm mewn adeiladau cynaliadwy sy’n dechnolegol flaengar – megis prosiect Oxford Brookes Abercrombie – wedi gosod safon newydd ar gyfer addysg arbrofol.
Hyd yn oed ar ôl carreg filltir arwyddocaol, fe wnaeth Hannah drawsnewid adfyd yn gyfle i lansio Big Bang UK, sy’n ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf trwy raglenni STEM diddorol i ddisgyblion cynradd.
Yn eiriolwr arobryn dros fenywod mewn STEM, dan arweinyddiaeth Hannah, mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi gweld cynnydd anhygoel o 616% mewn cofrestriadau merched ar gyrsiau Amgylchedd Adeilededig. Mae Hannah hefyd yn arwain grŵp STEM ffyniannus ac yn gwasanaethu fel aelod o fwrdd gweithredol Swansea Bay Construction Support Group.
“Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi ymrwymo i ddatblygu’r sector STEM yng Nghymru trwy ddefnyddio dull beiddgar, cynhwysol a chydweithredol sy’n alinio addysg, diwydiant a chymuned” meddai’r Pennaeth Dros Dro, Paul Kift. “Wrth wraidd ein strategaeth mae penderfyniad i chwalu rhwystrau, gan sicrhau bod STEM yn hygyrch, yn ysbrydoledig ac yn berthnasol i bawb, ni waeth beth yw eu cefndir, eu rhywedd neu eu hoedran.
“Rydyn ni’n gwneud hyn trwy ddatblygu rhaglenni arloesol sy’n rhoi sylw uniongyrchol i anghenion sgiliau rhanbarthol ac ar yr un pryd yn mynd i’r afael â rhwystrau economaidd-gymdeithasol. Mae ein model sydd dan arweiniad cyflogwyr yn sicrhau bod ein cwricwlwm yn adlewyrchu anghenion a thechnolegau y byd go-iawn, sy’n ein helpu i baratoi dysgwyr nid yn unig ar gyfer swyddi, ond ar gyfer gyrfaoedd gydol oes hefyd mewn sectorau sy’n canolbwyntio ar y dyfodol.
“Rydyn ni wrth ein bodd o gyrraedd y rhestr fer mewn dau gategori yng Ngwobrau STEM Cymru. Llongyfarchiadau mawr i Hannah a’m cydweithwyr sy’n llwyr haeddiannol o’r gydnabyddiaeth hon.”
Bydd Gwobrau STEM Cymru yn cael eu cynnal ar 16 Hydref 2025 yng Nghaerdydd.