Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cael ei gydnabod am ei gyfraniad at faes Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) yng Nghymru, gan gipio gwobr Rhaglen Addysgol y Flwyddyn (Sector Cyhoeddus).
Cyhoeddwyd enillwyr Gwobrau STEM Cymru 2025 mewn seremoni wobrwyo fawreddog dan ofal y ddarlledwraig Lucy Owen. Cynhaliwyd y digwyddiad yng Ngwesty Mercure Holland House, Caerdydd, i ddathlu cyflawniadau rhagorol ar draws STEM, gan gydnabod yr unigolion a’r sefydliadau blaengar sy’n llywio arloesedd ac yn gwneud cyfraniadau sylweddol i’r sector yng Nghymru.
Ochr yn ochr â 13 enillydd arall a phump a gafodd Ganmoliaeth Uchel, enillodd Coleg Gŵyr Abertawe deitl Rhaglen Addysgol y Flwyddyn (Sector Cyhoeddus) i gydnabod ei waith o ran cynyddu cyfranogiad i fenywod ym maes STEM trwy’r fenter Addysg a Thu Hwnt.
Mae Addysg a Thu Hwnt yn mynd i’r afael ag anghenion sgiliau STEM a’r sector adeiladu wrth roi sylw i rwystrau cymdeithasol-economaidd rhanbarthol. Wedi’i hariannu yn llwyr gan y Coleg, mae’n canolbwyntio ar greu piblinellau talent ar lefel uchel trwy addysg ac allgymorth cynhwysol, dan arweiniad cyflogwyr.
Ers ei lansio, mae’r Coleg wedi ymgysylltu â dros 150 o gyflogwyr, mwy na 50 o staff ar draws pedair cyfarwyddiaeth, a nifer o gyrff dyfarnu i gyd-greu chwe llwybr sector newydd. Mae dros 160 o ddysgwyr eisoes wedi cael lleoliadau newydd, gyda 74 o gofrestriadau ychwanegol ar gyrsiau adeiladu rhan-amser newydd yn ystod blwyddyn academaidd 2023/24.
Mae’r nifer sy’n manteisio ar brentisiaethau adeiladu wedi cynyddu 28% tra bod nifer y myfyrwyr adeiladu llawn amser a rhan-amser wedi cynyddu 15% yn gyffredinol. Mae’r fenter yn cefnogi grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn benodol fel menywod, disgyblion ysgol, oedolion economaidd anweithredol a’r rhai sy’n newid gyrfa. Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant wedi bod yn ganolog i’r fenter, gydag allgymorth ar draws canolfannau cymunedol, ysgolion a ffeiriau swyddi.
Mae Gwobrau STEM Cymru yn parhau i daflu goleuni ar y gwaith hynod sy’n cael ei wneud o fewn y sector STEM — gan roi sylw i heriau megis prinder sgiliau, cynaliadwyedd, a’r angen am fwy o amrywiaeth. Nid yn unig mae’r gwobrau’n dathlu arloesedd ond maen nhw hefyd yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol STEM yng Nghymru.
Daeth y seremoni â chystadleuwyr y rownd derfynol at ei gilydd o bob cwr o Gymru i gystadlu mewn 14 categori, yn amrywio o Fusnes STEM Newydd y Flwyddyn i Gyfraniad Rhagorol i STEM.
“Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi ymrwymo i ddatblygu’r sector STEM yng Nghymru trwy ddefnyddio dull beiddgar, cynhwysol a chydweithredol sy’n alinio addysg, diwydiant a chymuned” meddai’r Pennaeth Dros Dro, Paul Kift. “Rydyn ni wrth ein bodd o fod wedi ennill Gwobr Rhaglen Addysgol y Flwyddyn (Sector Cyhoeddus), sydd yn dyst enfawr i ymroddiad a gweledigaeth ein staff cymorth ac addysgu. Am ddigwyddiad anhygoel ac roedd y cystadlu’n frwd iawn – diolch yn fawr i Wobrau STEM Cymru am yr anrhydedd hwn, a llongyfarchiadau i bawb!”.
Dywedodd Liz Brookes, Cyd-sylfaenydd Gwobrau STEM Cymru:
“Bob blwyddyn, rydyn ni’n cael ein syfrdanu gan safon y cystadleuwyr yn y rownd derfynol a’n henillwyr. Maen nhw’n gwthio ffiniau, yn creu newid, ac yn ysbrydoli eraill i ddilyn yn eu hôl troed. Mae’n fraint dathlu’r rhai sy’n gyrru Cymru ymlaen fel hyb arloesedd a thalent STEM.”
Ychwanegodd Matthew Taylor, Cyfarwyddwr Arloesedd Ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, prif noddwr y gwobrau:
“Mae enillwyr 2025 yn enghraifft o’r creadigrwydd, y cydweithio a’r ymrwymiad sy’n diffinio’r sector STEM sy’n tyfu yng Nghymru. Ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, rydyn ni’n falch o gefnogi digwyddiad sy’n taflu goleuni ar y bobl a’r sefydliadau sy’n siapio dyfodol gwyddoniaeth a thechnoleg ein cenedl.”
Mae Gwobrau STEM Cymru wedi’u trefnu ar y cyd gan Grapevine Event Management a’r asiantaeth gyfathrebu greadigol jamjar, ac fe’u cefnogir gan Brifysgol Fetropolitan Caerdydd, CSA Catapult a Wynne Jones IP.
Enillwyr Gwobrau STEM Cymru 2025:
• Gwobr Cyfraniad Rhagorol i STEM: Dr Drew Nelson OBE, BSc, PhD, FREng
• Menyw STEM y Flwyddyn: Emily Roberts – M-SParc
• Llysgennad STEM y Flwyddyn: Alexis Dabee Saltmarsh – Coleg Gwent
• Rhaglen Addysgol STEM y Flwyddyn (Nid er elw): Rhaglen Rhannu Prentisiaeth Anelu’n Uchel
• Rhaglen Addysgol STEM y Flwyddyn (Sector Cyhoeddus): Coleg Gŵyr Abertawe
• Rhaglen Addysgol STEM y Flwyddyn (Sector Preifat): Dragons Rugby Limited – Dragons STEM Education
• Seren Ddisglair STEM y Flwyddyn: Phoebe Rintoul – Ipsen Biopharm Ltd
• Tîm STEM y Flwyddyn: Science Made Simple
• Gwobr Arloesedd mewn STEM: Gavin Griffiths Group
• Busnes STEM Newydd y Flwyddyn: Nellie Technologies Ltd
• Gwobr Cynaliadwyedd STEM: Nellie Technologies Ltd
• Busnes Rhyngwladol STEM y Flwyddyn: Laser Wire Solutions
• Cwmni STEM y Flwyddyn (Dros 50 o Weithwyr): DVLA
• Cwmni STEM y Flwyddyn (Llai na 50 o Weithwyr): Cansford Laboratories Ltd
Canmoliaeth Uchel:
• Gwobr Arloesedd mewn STEM: Genesis Biosciences
• Tîm STEM y Flwyddyn: Tîm Gŵyl Gwyddoniaeth Gymunedol – Prifysgol De Cymru
• Rhaglen Addysgol STEM y Flwyddyn (Sector Cyhoeddus): Cynghrair SPARC – Coleg Sir Benfro
• Rhaglen Addysgol STEM y Flwyddyn (Sector Preifat): M-SParc a Sgil Sparc
• Seren Ddisglair STEM y Flwyddyn: Lilly Phillips – Tenneco Walker ac Ana-Mah Din – Techniquest