Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi dathlu carreg filltir arwyddocaol wrth i’r gwaith ar y llawr uchaf a’r to gael ei gwblhau ar Gampws Tycoch.
Dyma’r cam diweddaraf mewn prosiect sydd wedi cael gwared ar RAAC (Concrit Awyredig Awtoclafiedig Cyfnerth) o’r to, wedi’i ddilyn gan gyfres o becynnau gwaith wedi’u cydlynu gan ganolbwyntio ar ddiogelwch, cydymffurfio a chynaliadwyedd hirdymor.
Bydd y gwaith hwn yn sicrhau bod y Coleg yn parhau i fynd i’r afael â sylfeini perfformiad adeiladu wrth greu’r amodau sydd eu hangen i gefnogi technolegau carbon isel.
“Wrth weithio mewn partneriaeth, rydyn ni wedi cyrraedd ein hamcanion allweddol ar gyfer y prosiect yn Nhycoch. Mae’r rhain yn cynnwys gwelliannau sylweddol i inswleiddio’r to a’r gwaith uwchraddio cysylltiedig, gosod rhai ffenestri newydd, a gwaith ailwampio hanfodol sy’n gwella cysur, effeithiolrwydd, a lles cyffredinol ar draws ein hamgylcheddau dysgu,” meddai’r Prif Swyddog Gweithredol, Kelly Fountain.
“Rydyn ni hefyd wedi buddsoddi yn y gwaith uwchraddio hollbwysig yn barod ar gyfer y dyfodol gan gynnwys uwchraddio’r cyflenwad trydanol, gan alluogi cymorth felly i’r genhedlaeth nesaf o systemau a thechnolegau carbon isel ar draws yr ystâd.
“Mae ein huchelgeisiau cynaliadwyedd yn parhau i ddatblygu, gydag ynni adnewyddadwy bellach yn rhan annatod o’n strategaeth trwy osod systemau cynhyrchu ffotofoltäig (PV). Mae’r gwelliannau hyn nid yn unig yn lleihau allyriadau carbon ond hefyd yn cryfhau gwydnwch a pherfformiad hirdymor ein hystâd wrth i ni symud ymlaen ar ein taith Carbon Sero Net (CSN)."
“Mae’r foment hon yn nodi carreg filltir bwysig ar daith CSN y Coleg ac rydyn ni’n falch iawn o fod wedi chwarae rhan mor allweddol,” meddai Mike Baynham, Cyfarwyddwr Adeiladu yn Knox & Wells. “Diolch yn fawr iawn i bawb dan sylw am eu hymdrechion hyd yma, ac am wneud y prosiect hwn yn llwyddiant ysgubol. Mae wedi cymryd llawer iawn o gydweithio, arbenigedd ac ymdrech i gyrraedd y pwynt hwn yn llwyddiannus, yn enwedig ar safle byw gyda heriau logistaidd cymhleth, ond mae’r canlyniadau’n siarad drostyn nhw eu hunain!”
Mae’r rhaglen wedi gofyn am waith cynllunio gofalus a chydweithredu cryf ar draws timau, ymgynghorwyr, a chontractwyr. Mae’r Coleg yn ddiolchgar i’n prif gontractwyr partner ar y prosiect hwn: Knox & Wells; Cambria; AtkinsRéalis; Green Hat; a Blake Morgan.
Rydyn ni hefyd yn ddiolchgar am gymorth parhaus a buddsoddiad gan Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, sydd wedi bod yn allweddol wrth sicrhau bod ein pecynnau gwaith sy’n seiliedig ar gydymffurfio yn cyd-fynd â’n nodau cynaliadwyedd a thrawsnewid ehangach.
“Hoffwn ddweud diolch o galon hefyd i’n staff a’n myfyrwyr am eu hamynedd, eu dealltwriaeth a’u cydweithrediad yn ystod y prosiect hwn,” ychwanegodd y Pennaeth, Paul Kift. “Mae eu cefnogaeth wedi bod yn hanfodol i’n galluogi i gyflawni’r gwelliannau hyn wrth gynnal amgylchedd cadarnhaol a sefydlog ar gyfer dysgu ac addysgu.
“Wrth i ni symud ymlaen, rydyn ni’n dal i fod yn ymrwymedig i adeiladu ar lwyddiant y cam hwn – gan barhau i greu lleoedd gwydn, effeithlon ac ysbrydoledig sy’n meithrin cymunedau dysgu cynaliadwy am flynyddoedd i ddod.”