Mae Connie Henry yn cefnogi dysgwyr ac addysgwyr o amgylch y byd i ddeall a rhoi arloesedd digidol mewn ffyrdd sy’n gweithio iddynt mewn gwirionedd.
Mae ei gwaith fel Ymarferydd Sgiliau Hanfodol Cymru a Mentor Cymheiriaid Digidol yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yn effeithio ar bobl yn y coleg a hefyd yn genedlaethol ac yn fyd-eang.
Mae Connie yn un o chwe tiwtor a gaiff eu cydnabod am eu cyfraniad i addysg yn seremoni Gwobrau Ysbrydoli! Tiwtoriaid a gynhelir yn adeilad y Senedd yng Nghaerdydd ar 17 Mawrth.
Caiff tiwtoriaid eu hanrhydeddu am eu gwaith ar draws Addysg Bellach, Addysg Bellach, gweithleoedd, Addysg Gymunedol a Cymraeg i Oedolion.
Wedi’u cydlynu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, mae’r gwobrau yn cydnabod tiwtoriaid eithriadol sy’n mynd yr ail filltir i rymuso oedolion sy’n ddysgwyr gan drawsnewid eu bywydau a chryfhau cymunedau.
“Yr hyn sy’n gyrru fy ngwaith yw gweld dysgwyr ac addysgwyr yn darganfod dulliau gweithredu, strategaethau neu safbwyntiau sy’n wirioneddol newid y ffordd y maent yn dysgu, addysgu neu weithio,” meddai Connie. “Rwy’n angerddol am greu profiadau dysgu ymarferol, cynhwysol a grymusol, gan sicrhau fod arloesedd digidol yn gweithio i bobl yn hytrach na dod yn rhwystr.
“Drwy’r agwedd yma rwy’n anelu i wella deilliannau ar gyfer dysgwyr unigol a’r gymuned addysg ehangach yn lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.”
Mae rôl Connie yn ymestyn ymhell tu hwnt i sgiliau hanfodol, gan gwmpasu arloesedd digidol, ymarfer cynhwysol, mentora cymheiriaid, datblygu staff ac ymgysylltu cymunedol ar draws addysg.
Mae’n cyflenwi dysgu diddorol sy’n cynyddu hyder drwy gyfuniad o addysgu ystafell ddosbarth, gweithdai, mentora, cymorth un i un a datblygiad proffesiynol parhaus.
“Rwy’n anelu i alluogi addysgwyr i arbrofi gyda dulliau gweithredu, gan weld sut y gall newidiadau bach drawsnewid addysgu a chynyddu’r cyswllt â dysgwyr,” ychwanegodd Connie. “Rwyf hefyd yn cyflwyno hyfforddiant ar gyfer staff sy’n cefnogi dysgwyr niwroamrywiol, gan weithio gydag arbenigwr mewn niwroamrywiaeth.”
Drwy ennill cymwysterau Lefel 5 gyda Chymdeithas Brydeinig Dyslecsia, ynghyd â thair prentisiaeth, mae wedi datblygu dulliau ‘sy’n newid y gêm’ ar gyfer dysgwyr.
Fel Pencampwr Cymunedol Jisc, mae’n cyd-drefnu ac yn cyflwyno TechTober, rhaglen flynyddol o ddatblygu proffesiynol parhaus rhad am ddim ar gyfer addysgwyr ar draws y byd, gan rannu dulliau ymarferol dan arweiniad cymheiriaid at offer digidol. Caiff recordiadau o weminarau eu rhannu drwy LinkedIn fel adnoddau dysgu.
Fel ysgrifennydd bwrdd ymddiriedolwyr, mae gan Connie rôl allweddol ym Mhrosiect Addysg Gymunedol Kenya, gan gynnwys myfyrwyr mewn codi arian, digwyddiadau traws-gampws a chysylltiadau ysgol, gan ymwreiddio Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru ac alinio dysgu gyda Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig.
Cafodd ei henwebu ar gyfer Gwobrau Ysbrydoli! Tiwtoriaid 2026 gan Stella Elphick, Rheolwr Masnachol Digidol Coleg Gŵyr Abertawe a ddywedodd: “Mae gan Connie y gallu prin i drosi datblygiadau cymhleth ac sy’n symud yn gyflym, yn cynnwys deallusrwydd artiffisial, i fod yn gyfleoedd dysgu ymarferol hygyrch sy’n cyfoethogi addysgu, dysgu ac effeithlonrwydd sefydliad.
“Mae’n hybu addysg gynhwysol, yn llywio ymarfer cenedlaethol ac yn rhoi sgiliau parod i’r dyfodol i addysgwyr a dysgwyr, gan sicrhau effaith barhaus yn lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.”
Dywedodd Vikki Howells, Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch: “Llongyfarchiadau i Connie ar ennill y wobr yma. Mae Gwobrau Ysbrydoili! Tiwtoriaid yn gyfle i ddathlu’r tiwtoriaid gwych ledled Cymru sy’n cefnogi oedolion sy’n ddysgwyr i ddatblygu sgiliau newydd.
“Mae llawer o ddysgwyr wedi dweud wrthyf fod dychwelyd i ddysgu wedi gwella eu bywydau, a phan fo un person yn dysgu gwyddom fod y budd yn ymestyn ledled teuluoedd a chymunedau cyfan mewn ffyrdd sydd wirioneddol yn newid bywydau.
“Mae’n bwysig ein bod yn cydnabod y tiwtoriaid gwych fel Connie sy’n gweithio ar draws addysg drydyddol sy’n gwneud gwahaniaeth bob dydd.”
Meddai Michelle Matheron, Cyfarwyddwr Cymru y Sefydliad Dysgu a Gwaith: “Mae Gwobrau Ysbrydoli! Tiwtoriaid yn dathlu ymroddiad anhygoel addysgwyr ledled Cymru sy’n mynd ati bob dydd i gefnogi oedolion sy’n ddysgwyr ym mhob amgylchedd – o safleoedd cymunedol a phrifysgolion i golegau addysg bellach a’r gweithle.
“Wrth anrhydeddu eu llwyddiannau, rydym yn dathlu’r holl sector addysg oedolion gan wybod lle bynnag mae dysgu yn digwydd, fod gan diwtor angerddol y grym i newid bywydau.”
Cefnogir y gwobrau gan Colegau Cymru, Partneriaeth Addysg Oedolion Cymru, Prifysgolion Cymru, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.