Yn ddiweddar, fe deithiodd dau fyfyriwr o Goleg Gŵyr Abertawe i San Steffan i ddathlu Diwrnod Cenedlaethol Interniaethau â Chymorth.
Roedd Jamie Leigh Webber a Harri Jones, sydd ill dau yn dilyn Rhaglen Llwybr 4 Coleg Gŵyr Abertawe, yn llysgenhadon rhyfeddol yn ystod y digwyddiad nodedig, lle siaradon nhw yn agored ac yn hyderus am eu profiadau o weithio yn Amazon.
Mae’r rhaglen interniaethau â chymorth, sydd bellach yn ei thrydedd flwyddyn yn olynol, yn parhau i gynhyrchu canlyniadau cyflogaeth uchel a diogelwch swydd i gynifer o bobl ifanc ar ddiwedd eu cyrsiau Coleg.
“Trwy fynd i’r digwyddiad gwych hwn, gyda balchder, fe wnaeth Jamie a Harri gynrychioli pob person ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol sy’n byw yng Nghymru – trwy rannu eu profiadau, eu barn a’u gweledigaeth ar gyfer rhaglenni a charfannau’r dyfodol,” meddai tiwtor ac arweinydd y rhaglen yn Amazon, Angela Smith.
“Fe wnaeth Jamie sefyll i fyny a dal y meicroffon, cyflwyno ei hun ac adrodd ei stori. Soniodd am sut roedd ennill cyflogaeth yn gam pwysig at ennill mwy o annibyniaeth yn y gwaith ac mewn bywyd a sut mae cael swydd â thâl yn golygu y gallai hi ddysgu gyrru i’r gwaith yn lle dibynnu ar gludiant cyhoeddus.
“Rydyn ni i gyd mor falch o Jamie a Harri am fod yn llysgenhadon mor wych i’r Coleg ac i Amazon, ac am hyrwyddo hawl pawb i weithio a ffynnu."
Yn ystod y digwyddiad yn Portcullis House, roedd sawl siaradwr proffil-uchel gan gynnwys Syr Lindsay Hoyle AS, Angela Rayner AS, y Farwnes Tanni Grey-Thompson, Jodie Gosling AS, a’r Fonesig Diana Johnson AS.
Ymhlith y trafodaethau roedd ymrwymiad y Llywodraeth i waith teg a chyflogaeth anabledd, a chwalu rhwystrau mewn amgylcheddau proffesiynol.
Cafodd Diwrnod Cenedlaethol Interniaethau â Chymorth ei gynnal ar 27 Mawrth a’r thema eleni oedd ‘popeth oren’.
Mae pob un o’r wyth intern sy’n gweithio yn Amazon yn parhau i godi ymwybyddiaeth trwy roi orenau i gyd-Gymdeithion yn ystod amser egwyl; i gysylltu a dal dwylo ar gyfer tegwch yn y gweithle i bawb.