Skip to main content
Coleg yn dathlu Wythnos Enfys 2026

Coleg yn dathlu Wythnos Enfys 2026

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi troi yn fôr o liw ar gyfer Wythnos Enfys 2026, digwyddiad a anogodd staff a myfyrwyr i ddathlu amrywiaeth a chynhwysiant mewn amgylchedd diogel a chefnogol.

"Rydyn ni wrth ein boddau bod cynifer o bobl wedi ymateb mor gadarnhaol i Wythnos Enfys eleni,” meddai Swyddog Cydraddoldeb ac Amrywiaeth y Coleg, Gareth May. 

“Roedd y gweithdai a gynhaliwyd drwy gydol yr wythnos – a ganolbwyntiodd ar gynhwysiant, hunanofal a hunaniaethau LGBTQ+ – yn gyfle i bawb gymryd rhan, rhoi cynnig ar rywbeth newydd, a dangos eu cefnogaeth.

Roedd baneri Pride yn chwifio ar draws pob un o’n chwe phrif gampws, gyda dysgwyr a staff yn gobeithio ennill cystadleuaeth y wisg orau.

Yn ystod yr wythnos, fe groesawodd y Coleg amrywiaeth anhygoel o bartneriaid a sefydliadau cymunedol gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru, Fast Track Bae Abertawe ac YMCA Abertawe.

Yn ogystal, cafodd myfyrwyr a staff gyfle i sgwrsio â chynrychiolwyr o Queertawe, Progress Cymru, Nofela a Barod, a phori stondinau adwerthwyr creadigol Wonder Burrow a Wonky Cauldron.

Diolch yn fawr iawn i The Gamers Emporium, a gynigiodd i’n staff a’n myfyrwyr fynediad rhad ac am ddim at eu siop yng nghanol y ddinas drwy’r wythnos. 

Diolch o galon hefyd i Teacher Active, a gyflenwodd yr holl addurniadau ar gyfer yr wythnos. 

Mae’r Coleg hefyd yn ddiolchgar i Castell Howell a Chlwb Pêl-droed Dinas Abertawe a ddarparodd hamper blasus, pêl-droed wedi’i llofnodi a thocynnau i weld gêm yr Elyrch fel gwobrau ar gyfer ein raffl.

“Rydyn ni’n gobeithio ychwanegu at yr holl waith anhygoel sydd wedi cael ei wneud eleni a pharhau â’r traddodiad blynyddol hwn o ddathlu hunaniaethau pawb sy’n rhan o gymuned ein Coleg,” ychwanegodd Gareth.