Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cynnal seremoni wobrwyo arbennig yn Stadiwm Swansea.com fel rhan o Wythnos Prentisiaethau Cymru 2026.
Roedd y digwyddiad yn anrhydeddu ymrwymiad ac ymroddiad rhagorol prentisiaid y Coleg, staff a chyflogwyr partner o bob cwr o Gymru a Lloegr, ac wrth y llyw roedd y cyflwynydd/darlledwr Ross Harries, sydd wedi bod yn wyneb rygbi Cymru am fwy na degawd.
Siaradwyr gwadd y noson oedd James Owen, Prif Weithredwr Medr, a Jonathan Morris, Rheolwr Partneriaethau Strategol a Materion Allanol yn Tai Tarian.
Mae prentisiaethau yn flaenoriaeth allweddol i lawer o gyflogwyr o ran diwallu’r sgiliau sydd eu hangen i ddatblygu a thyfu eu busnesau, ac rwyf wrth fy modd, yn enwedig yn ystod y blynyddoedd diwethaf, bod y Coleg wedi gallu ymateb i’r galw hwn,” meddai’r Pennaeth, Paul Kift.
Heddiw mae gennym dros 2,500 o brentisiaid ar unrhyw un adeg, ond rwyf hefyd yn falch iawn o adrodd bod ansawdd y ddarpariaeth hefyd wedi cryfhau gyda’n prentisiaid, ein staff a’n rhaglenni yn cael eu cydnabod yng Nghymru yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru a Gwobrau Tiwtoriaid Ysbrydoli, ond hefyd ledled y DU yng Ngwobrau AB y Times Educational Supplement (TES), Gwobrau’r Gynhadledd Prentisiaethau Flynyddol (AAC), a Gwobrau Beacon Cymdeithas y Colegau (AOC).
Ein prentisiaid y flwyddyn 2026 yw:
Prentis y Flwyddyn Cyfrifeg- Alex Hoskin, Castleview Accountancy
Prentis y Flwyddyn Arweinyddiaeth Gweithgarwch, Datblygu Chwaraeon - Sinead Hogan, Ysgol Tŷ Gwyn
Prentis y Flwyddyn Amgylchedd Adeiledig - Leon Lizzi, Cyngor Abertawe
Prentis y Flwyddyn Gweinyddu Busnes - Mikayla Novak, EYST
Prentis y Flwyddyn Gwella Busnes ac Ansawdd - Ross Cotter, Energybuild Ltd
Prentis y Flwyddyn Gofal Plant a Chymorth Addysgol - Katy Campbell, Rocking Horse Day Nursery
Prentis y Flwyddyn Peirianneg Sifil - Lewis Colborne, RMG Groundworks
Prentis y Flwyddyn Datblygiad Cymunedol - Richard Thomas, United Welsh
Prentis y Flwyddyn Adeiladu - Sonny Desmond, J Lynch Building
Prentis y Flwyddyn Canolfan Gyswllt - Matthew Roberts, TUI
Prentis y Flwyddyn Gwasanaeth Cwsmeriaid - Caitlin Lockett, Robert Price Builders Merchants
Prentis y Flwyddyn Dylunio Dysgu Digidol - Tetiana Bohach, JoJo Maman Bébé
Prentis y Flwyddyn Electroneg - Freddy Thompson, GIG
Prentis y Flwyddyn Peirianneg a Cherbydau Modur - Liam Atkins, CJ Motors
Prentis y Flwyddyn Rheoli Cyfleusterau ac Adnoddau - Zoe Payne, Cyngor Abertawe
Prentis y Flwyddyn Gorchuddio Lloriau - Keenan James, Lee James Flooring
Prentis y Flwyddyn Gofal Iechyd - Elizabeth Illing, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Prentis y Flwyddyn Tai - Ross Williams, Merthyr Valley Homes
Prentis y Flwyddyn Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad - Daniel Payne-Wilks, TCH Group
Prentis y Flwyddyn TG a Digidol - Elisha Cook, DVLA
Prentis y Flwyddyn Labordy a Gwyddoniaeth - Isobel Taylor, Hydratech
Prentis y Flwyddyn Gwasanaethau Cyfreithiol - Ruby Shadrach, JCP Solicitors
Prentis y Flwyddyn Rheoli a Datblygu - Hana Kubiszova, Adept Consulting
Prentis y Flwyddyn Gofal Cymdeithasol - Zoe Thicker, Cyngor Sir Benfro
Prentis y Flwyddyn Gwaith Ieuenctid - Cerian Asplet-Phoenix, Cyngor Sir y Fflint
Pencampwr Cymraeg Gwobr Prentis - Katy Campbell, Rocking Horse Day Nursery
Pencampwr Cymraeg Gwobr Prentisiaeth Cyflogwr - Adra
Pencampwr Cymraeg Gwobr Prentisiaeth Tiwtor/Aseswr - Lowri Williams
Prentis y Flwyddyn Peiriannydd Gwasanaethu a Gosod Cynhyrchion Trydanol, Electronig (Lloegr) – Bradley Ager, Fisher and Paykel
Prentis y Flwyddyn Rheoli Cyfleusterau (Lloegr) – Fathema Sarkar, Marlin
Tiwtor/Aseswr Prentisiaeth y Flwyddyn - Anne Fellowes
Tiwtor/Aseswr Prentisiaeth y Flwyddyn (Lloegr) - Michael Rowe
Cyflogwr Prentisiaeth y Flwyddyn (Lloegr) – St Monica Trust
Cyflogwr Prentisiaeth y Flwyddyn (1-49 o weithwyr) – Meithrinfa Ffalabalam Cyfyngedig
Cyflogwr Prentisiaeth y Flwyddyn (50-249 o weithwyr) – Energybuild Ltd
Cyflogwr Prentisiaeth y Flwyddyn (250+ o weithwyr) – Ecolab
Pencampwr Cyflogwr Prentisiaeth y Flwyddyn – Rachel Healion, Cyngor Abertawe
Prentis Sylfaen y Flwyddyn - Ross Cotter, Energybuild Ltd
Prentis Uwch y Flwyddyn - Hana Kubiszova, Adept Consulting
Prentis y Flwyddyn (Lloegr) - Hamza Imansouren, Fisher & Paykel
Prentis y Flwyddyn - Liam Atkins, CJ Motors
Diolch yn fawr hefyd i Fand Jazz Campws Gorseinon, dan arweiniad Simon Prothero, am ddarparu’r adloniant adeg cyrraedd, a’n tîm Cynhyrchu Theatr a Digwyddiadau Byw, dan arweiniad Adrian Hocking, am eu gwaith gwych ar y set, y goleuadau a’r sain.
Roedd y digwyddiad yn rhan o amrywiaeth eang o weithgareddau a drefnodd y Coleg i ddathlu Wythnos Prentisiaethau Cymru 2026.
Ar 4 Chwefror, fe gynhaliodd y Coleg noson agored arbennig i bobl sydd â diddordeb mewn prentisiaethau. Roedd y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol, gyda thros 500 yn dod i sgwrsio â darlithwyr a chyflogwyr.