Skip to main content

Wythnos Prentisiaethau Cymru

Mae Wythnos Prentisiaethau Cymru yn ôl ar gyfer 2026, dathliad blynyddol sy’n tynnu sylw at y rôl hanfodol y mae prentisiaethau yn ei chwarae wrth lunio gweithlu’r dyfodol, grymuso dysgwyr a llywio llwyddiant busnes.

Eleni mae Wythnos Prentisiaethau Cymru yn rhedeg rhwng dydd Llun 9 tan ddydd Sul 15 Chwefror, lle mae cyflogwyr, colegau, ysgolion a mwy yn dod at ei gilydd i arddangos y cyfleoedd sy’n newid bywyd y mae prentisiaethau yn eu darparu a’u cyfraniad sylweddol i’r economi.

Apprenticeships Wales Logo

Gweithgareddau'r Wythnos Brentisiaethau

Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, byddwn ni’n cynnal amrywiaeth o weithgareddau cyn yr wythnos ac yn ystod yr wythnos i ddathlu ac egluro prentisiaethau:

  • Ddydd Mercher 4 Chwefror, bydd y Coleg yn cynnal Ffair Prentisiaethau a Recriwtio, digwyddiad penodedig i bobl o bob oedran i ddysgu rhagor am ein prentisiaethau clodfawr, cwrdd â chyflogwyr a chael cymorth gyrfa/prentisiaeth.
    Cofrestrwch ar gyfer y ffair ar Eventbrite
  • Ddydd Llun 9 Chwefror, bydd Coleg Gŵyr Abertawe yn cynnal ei Wobrau Prentisiaethau blynyddol. Bydd y seremoni yn dathlu cyflawniadau prentisiaid, cyflogwyr a staff o bob maes pwnc!
  • Yn olaf, o ddydd Llun 9 tan ddydd Iau 12 Chwefror, bydd sesiynau gwybodaeth prentisiaethau yn cael eu cynnal yn rhithwir ar Microsoft Teams - mae’r manylion i’w gweld isod!

Sesiynau gwybodaeth prentisiaethau

Student holding Jaws of Life at Apprenticeship Open Evening

4 Chwefror

Ffair prentisiaethau a recriwtio

  3.30-7pm

  Campws Tycoch

Dewch i gwrdd ag arbenigwyr pwnc a chyflogwyr, darganfod prentisiaethau gwag a derbyn cyngor gyrfa.

Mae ein ffair prentisiaethau a recriwtio ar gyfer pobl o unrhyw oedran – p’un a ydyn nhw’n gobeithio uwchsgilio neu newid gyrfa, newydd adael yr ysgol, neu’n chwilio am ddewis arall i addysg uwch.

Cyflogwyr sy'n arddangos: Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), Redkite cyfreithwyr, Cyfle, Barclays, Admiral, JCP Solicitors, The Construction Hub Academy, Codi, Urdd, Lumin Accountancy, Iechyd a Gofal Digidol Cymru, Kier, Willmott Dixon, XR Training, Amgylcheddol GWM, Royal Air Force, Caredig, Cyngor Sir Gar, Network Rail, Knox and Wells, WRU, Castell Howell, Sony, The Gym Group, Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru, Mind Swansea, YMCA Abertawe, a mwy i'w cadarnhau!
Business people high-fiving

9 Chwefror

Cyflwyniad i Arwain: Cymwysterau CMI ac ILM

  1-1.30pm

  Microsoft Teams

Sesiwn graff ar gymwysterau Arwain a Rheoli CMI ac ILM yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.

P'un a ydych chi am fod yn rheolwr uchelgeisiol, yn datblygu eich sgiliau rheolaeth ganol neu yn symud ymlaen i rolau arwain uwch, mae ein rhaglenni'n cynnig llwybrau clir i gefnogi eich nodau gyrfa.

Mae'r sesiwn hon yn ddelfrydol ar gyfer unigolion a chyflogwyr sy'n awyddus i ddatblygu arweinwyr cryf a hyderus ar bob lefel.

Close up of hands typing on a laptop keyboard

10 Chwefror

Yn Cyflwyno Rheolwr Cynnyrch Digidol: Meithrin arweinwyr digidol y dyfodol

  1.30-2pm

  Microsoft Teams

Ymunwch â ni am sesiwn gyflwyno i’n cymhwyster newydd mewn Rheoli Cynnyrch Digidol.

Dyma gyfle i ddarganfod sut mae’r cymhwyster hwn yn datblygu’r sgiliau sydd eu hangen i reoli cynnyrch digidol, gan gyfuno technoleg, data a safbwyntiau defnyddwyr i arwain timau i greu systemau effeithiol, gwasanaethau, apiau, gwefannau a meddalwedd. 

Dysgwch am gynnwys ac addasrwydd y cymhwyster a sut y gall feithrin arweinwyr cynnyrch digidol y dyfodol.

Close up of desk with charts and graphs

11 Chwefror

Eich dyfodol ym maes cyllid: Cymwysterau Cyfrifeg AAT

  9.30-10am

  Microsoft Teams

Dewch i sesiwn sy’n cwmpasu pob agwedd ar gyrsiau Cyfrifeg yng Ngholeg Gŵyr Abertawe. P’un ai a ydych yn dechrau yn y maes neu yn datblygu sgiliau presennol, mae cyrsiau AAT yn cynnig cymwysterau ar bob lefel. 

Dyma gyfle i ddarganfod sut y gall y cymwysterau hyn ddatblygu sgiliau allweddol, o ddeall prosesau ariannol a pharatoi datganiadau ariannol i archwilio meysydd arbenigol fel treth, archwilio ariannol a rheoli ariannol.

Customer service employee with telephone

11 Chwefror

Datblygu timau Gwasnaeth Cwsmeriaid o’r radd flaenaf

  10-10.30am

  Microsoft Teams

Ymunwch â ni am sesiwn ar ein cymwysterau Gwasanaeth Cwsmeriaid a Gweithrediadau Canolfan Gyswllt. Dyma gyfle i ddarganfod sut y gall y llwybrau hyn gael eu defnyddio i uwchsgilio staff newydd a phresennol. 

Dysgwch ragor am yr opsiynau sydd ar gael a sut y maent yn diwallu anghenion eich gweithlu, gan ddarganfod y manteision y gallant eu cynnig i staff a chyflogwyr.

Person talking to another in a professional setting

11 Chwefror

Sgyrsiau Grymusol: Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad

  1.30-2pm

  Microsoft Teams

Dewch i’n sesiwn i archwilio cymwysterau gwybodaeth, cyngor ac arweiniad. Mae’r sesiwn yn ddelfrydol ar gyfer unigolion sy’n gweithio mewn rolau cefnogi, cynghori ac arwain. 

Mae’r cymhwyster yn addas ar gyfer ystod eang o sectorau gwahanol, gan gynnwys undebau llafur, ysgolion, cymdeithasau tai, adnoddau dynol ac iechyd a gofal cymdeithasol.

Legal books

11 Chwefror

Hybu arbenigedd cyfreithiol: Eich canllaw ar gyfer y brentisiaeth mewn Gwasanaethau Cyfreithiol

  3.30-4pm

  Microsoft Teams

Dewch i’r sesiwn i gael cyflwyniad i’r brentisiaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a’r cymhwyster CILEX, sydd wedi’i gynllunio i uchwsgilio paragyfreithwyr a chynorthwywyr cyfreithiol. 

Dyma gyfle i ddarganfod sut y gall y brentisiaeth hon feithrin arbenigedd hanfodol mewn cyfraith contract, camwedd, eiddo a'r system gyfreithiol, gan hybu gallu proffesiynol. Mae’r cymhwyster yn ddelfrydol ar gyfer gweithwyr a sefydliadau sydd am ddatblygu llwybrau gyrfa a datblygu gweithwyr cymorth proffesiynol a hyderus ym maes gwasanaethau cyfreithiol.

Looking up at skyscrapers

12 Chwefror

Dere i adeiladu neu ddatblygu dy yrfa Rheoli Cyfleusterau gyda chymwysterau IWFM

  12-12.30pm

  Microsoft Teams

Ymuna â’r sesiwn hon i gael atebion i dy gwestiynau am gymwysterau’r Sefydliad Rheoli Gweithleoedd a Chyfleusterau (IWFM) (BIFM gynt), sydd ar gael ledled Cymru.

Mae lefelau ar gael i newydd-ddyfodiaid, pobl sy’n newid gyrfa, a gweithwyr proffesiynol profiadol, ac mae’r cymwysterau yn hyblyg ac yn ddelfrydol i’r rhai sy’n gweithio mewn gwasanaethau caled, gwasanaethau meddal neu mewn rôl strategol.

Person using grinder

12 Chwefror

Peiriannu eich Uchelgeisiau: Sesiwn Holi ac Ateb Prentisiaeth

  1-2pm

  Microsoft Teams

Dyma gyfle i fynd i sesiwn Holi ac Ateb ar brentisiaeth Peirianneg a gynigir gan Goleg Gŵyr Abertawe. P’un ai ydych chi’n chwilio am eich gyrfa nesaf neu yn gyflogwr sydd am uwchsgilio eich tîm, mae’r sesiwn hwn yn gyfle perffaith i siarad yn uniongyrchol â’n harbenigwyr. 

Gallwch gael atebion i’ch cwestiynau a dysgu mwy am yr ystod eang o lwybrau a gynigiwn ym meysydd fel Peirianneg, Trydanol, Weldio, Cerbydau Modur a mwy. Dyma gyfle i ddarganfod sut gall prentisiaethau gefnogi dilyniant unigol a datblygiad o fewn y gweithlu.

Person presenting to another

12 Chwefror

Adeiladu dyfodol gwell: Gyrfaoedd, Gwybodaeth a Chyngor

  1.30-2pm

  Microsoft Teams

Ewch i’r sesiwn hon i ddysgu mwy am y cymhwyster Gyrfaoedd, Gwybodaeth a Chyngor, sy’n berffaith ar gyfer unigolion sy’n darparu gwybodaeth a chyfarwyddyd i unigolion mewn perthynas â dysgu, hyfforddi a phenderfyniadau gyrfaol. 

Mae’r llwybr hwn yn addas ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio mewn rolau fel hyfforddwyr swyddi, cynorthwywyr gyrfa a swyddogion datblygu o fewn gwasanaethau cyflogaeth.