Wrth i’r tymor arholiadau ac asesiadau nesáu, mae Coleg Gŵyr Abertawe yn cadarnhau ei ymrwymiad i gynorthwyo myfyrwyr yn ystod un o’r cyfnodau pwysicaf, ac yn aml, heriol, ar eu taith academaidd.
Gan gydnabod y pwysau sylweddol y mae llawer o ddysgwyr yn eu hwynebu, mae’r Coleg yn tynnu sylw at yr amrywiaeth o gymorth sydd ar gael i helpu myfyrwyr i reoli straen, canolbwyntio ar eu gwaith adolygu, ac edrych ar ôl eu hiechyd meddwl.
Mae ymchwil newydd gan YoungMinds yn tynnu sylw at faint y broblem. Mae tua 63% o bobl 15 i 18 oed yn dweud eu bod yn ei chael yn anodd ymdopi cyn ac yn ystod arholiadau TGAU a Safon Uwch, gydag arholiadau a phwysau academaidd yn cael eu dyfynnu fel yr effeithiau negyddol mwyaf ar iechyd meddwl.
Er mwyn helpu i frwydro yn erbyn straen a gorbryder cynyddol, mae’r Coleg yn parhau i hyrwyddo strategaethau ymarferol, syml i gefnogi adolygu effeithiol a lles, ond eleni, mae’r Coleg hefyd yn cyflwyno mentrau lles newydd i roi cymorth ychwanegol i fyfyrwyr yn ystod tymor yr arholiadau.
Mae myfyrwyr yn cael mynediad at rwydwaith eang o ofal bugeiliol, sesiynau galw heibio, a mentrau dan arweiniad myfyrwyr oherwydd weithiau mae’n helpu i wybod bod yna bobl ar gael sy’n deall sut beth yw tymor yr arholiadau. Ac yn y llyfrgelloedd, mae posau a gweithgareddau lliwio ar gael i’r rhai sydd am gael saib o’r llyfrau.
Mae’r Coleg hefyd wedi creu mannau tawel ar gyfer myfyrwyr sydd angen amgylchedd tawelach i ymlacio cyn arholiad. Bydd y mannau hyn yn gweithredu fel lloches, gan gynnig tawelwch a lluniaeth fel diodydd heb gaffein, te perlysieuol, a ffrwythau ffres.
Am y tro cyntaf, bydd gweithdai ymwybyddiaeth ofalgar yn rhedeg mewn partneriaeth â The Exchange Abertawe, gan helpu myfyrwyr i ddarganfod dulliau ymarferol o reoli straen, ochr yn ochr â sesiynau ioga i’r rhai sydd angen ymlacio ac anadlu am sbel.
Eglura Ryan McCarley, Uwch Swyddog Cymorth Coleg Gŵyr Abertawe:
"Mae ein gweithdai Ffynnu i gyd yn rhoi math gwahanol o gymorth i fyfyrwyr yn ystod tymor yr arholiadau, ac maen nhw’n lleoedd i fagu hyder a sicrwydd, a dysgu technegau y gallan nhw eu defnyddio ymhell y tu hwnt i’w harholiadau. Mae gweithio mewn partneriaeth â The Exchange Abertawe yn rhoi modd i ni gyflwyno dulliau ymarferol, newydd sy’n addas ar gyfer myfyrwyr, gan eu helpu i deimlo’n fwy cytbwys, galluog a pharod i wynebau’r heriau sydd o’u blaenau."
Ychwanegodd Paul Kift, Pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe:
"Mae’r adeg hon o’r flwyddyn yn gallu teimlo’n llethol pan fydd myfyrwyr yn ei chanol hi o ran arholiadau ac asesiadau, ond trwy gymryd camau bach, hawdd eu rheoli, maen nhw’n gallu lleddfu’r pwysau a magu hyder. Mae edrych ar ôl eu hiechyd meddwl yr un mor bwysig ag adolygu, a gall strategaethau syml wneud byd o wahaniaeth."
"Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, rydyn ni eisiau i’r holl ddysgwyr wybod nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain. P’un a oes angen help adolygu arnyn nhw, cael cymorth gyda’u lles, neu rywun i fod yn glust, mae ein staff wrth law bob cam o’r ffordd i roi tawelwch meddwl iddyn nhw, a’u helpu i deimlo’n hyderus, ac yn barod i lwyddo."
"Mae’r Coleg hefyd yn annog rhieni a gofalwyr i chwarae rôl weithredol trwy gynorthwyo myfyrwyr gartref,” esbonia Paul Kift. “Mae helpu nhw i greu cynlluniau adolygu realistig, dilyn trefn arferol iach, a dathlu llwyddiannau bach ar hyd y ffordd i gyd yn gymorth mawr".
"O dips adolygu, mannau tawel a chymorth astudio strwythuredig i ymwybyddiaeth ofalgar, ioga, a gweithgareddau ymgysylltu myfyrwyr, mae Coleg Gŵyr Abertawe yn ymrwymedig i sicrhau bod gan bob dysgwr yr offer a’r cymorth sydd eu hangen arno i lwyddo yn academaidd ac yn bersonol."