Prentisiaeth Sylfaen Galwedigaethau Trywel – Gwaith Brics
Trosolwg
Bydd y cwrs dwy flynedd hwn yn datblygu’ch sgiliau crefft i weithio i safonau diwydiannol cydnabeddedig yn y fasnach gosod brics. Byddwch yn dysgu sgiliau newydd mewn gwaith maen, gwaith blociau a gwaith brics a byddwch yn ennill gwybodaeth a sgiliau sylfaenol ar gyfer gyrfa yn y diwydiant.
Diweddarwyd Tachwedd 2019
Gwybodaeth allweddol
Unedau gorfodol / unedau dewisol:
- Dehongli lluniadau gweithredol i osod allan adeileddau gwaith maen
- Gwaith maen uniad tenau a chladin gwaith maen
- Adeiladu waliau solet
- Pileri ynysig a chysylltiedig
- Adeiladu waliau ceudod i greu adeileddau gwaith maen
- Atgyweirio a chynnal a chadw adeileddau gwaith maen yn y gweithle
- Cydymffurfio ag iechyd a diogelwch cyffredinol yn y gweithle
- Gosod system ddraenio yn y gweithle
- Trin a storio adnoddau yn y gweithle
Sgiliau hanfodol:
- Cymhwyso Rhif Lefel 1
- Cyfathrebu Lefel 1
- Hawliau a chyfrifoldebau cyflogaeth
Gallwch symud ymlaen i’r cwrs Galwedigaethau Trywel Lefel 3. Neu os yw’ch trefniadau gwaith wedi newid sy’n golygu eich bod yn gwneud agweddau eraill ar adeiladu, efallai y byddai’n fuddiol i chi arallgyfeirio ac ennill achrediad a gymeradwyir gan y diwydiant trwy ddilyn ein cyrsiau adeiladu eraill.