Broadway Canolfan Gwallt, Harddwch a Holisteg

 

Mae ein myfyrwyr yn darparu triniaethau o’r safon orau sy’n cynnig gwerth da am arian yn ein salonau o safon broffesiynol. Cynigiwn amrywiaeth o wasanaethau steilio a lliwio gwallt gan ddefnyddio’r brandiau salon gorau. Gallwch bampro’ch hunan gyda’r triniaethau harddwch a gofal croen gorau gan gynnwys microdermabrasion a therapi ocsigen yn ogystal â thriniaethau i’r aeliau a’r amrantau, triniaethau i’r dwylo a’r traed a chwyro. Anghofiwch am eich poenau gydag un o’n triniaethau tylino moethus - dewiswch o dylino corff Swedaidd, therapi cerrig, tylino pen Indiaidd neu dylino chwaraeon.

Hair

Gwallt

Os ydych am gael y steil wallt neu’r lliw diweddaraf gryn dipyn yn rhatach, galwch heibio i'n gweld. Dim ond brandiau salon o safon rydym yn eu defnyddio ac rydym yn cynnig amrywiaeth o liwiau parhaol a lled-barhaol. Ar gyfer y dynion, mae dewis o wasanaethau barbro.

Rhagor o wybodaeth...

Hair

Harddwch

Sbwyliwch eich hunan gyda'r triniaethau harddwch a gofal croen gorau. Oeddech chi'n gwybod ein bod yn cynnig gweddnewidiadau heb lawdriniaeth, Microdermabrasion a therapi ocsigen yn ogystal â'r triniaethau poblogaidd fel lliw haul St Tropez, triniaethau i’r blew amrant a’r aeliau, triniaethau dwylo a thraed a chwyro?

Rhagor o wybodaeth...

Hair

Holisteg

Beth am ymlacio ar ôl diwrnod prysur gydag un o'n triniaethau tylino moethus? Rydym yn cynnig tylino corff Swedaidd, therapi cerrig, tylino pen Indiaidd, aromatherapi a thylino chwaraeon. Neu beth am dreulio dim ond 20 munud ar ein gwely arnofio sych i gael cyfwerth â thair awr o gwsg?

Rhagor o wybodaeth...
Broadway Price List

Lawrlwytho Llyfryn Broadway

Yma yng Nghanolfan Gwallt, Harddwch a Holisteg Broadway, credwn y dylech chi sbwylio’ch hunan heb sbwylio’ch cyfrif banc felly cynigiwn amrywiaeth o driniaethau harddwch, therapïau cyfannol a sba moethus am brisiau cystadleuol.

 

Cer ar daith rithwir o amgylch Campws Broadway i ddarganfod yr ystod eang o gyfleusterau arbenigol sydd ar gael i fyfyrwyr, gan gynnwys tanc arnofio sych, byrddau tylino a salonau gwallt.

 

Sut i ddod o hyd i ni

Canolfan Gwallt, Harddwch a Holisteg Broadway
Coleg Gŵyr Abertawe
Campws Tycoch
Abertawe SA2 9EB

Ffôn: 01792 284049

Broadway 2
Campws Hill House
Heol Cocyd
Abertawe SA2 0FD

Ffôn: 01792 284051


View Gower College Swansea Sites in a larger map

Pryd i ddod o hyd i ni

Yn ystod y tymor yn unig
Dydd Llun - Dydd Iau: 9am-9pm
Dydd Gwener: 9am-4pm

Meithrin talent y dyfodol

Broadway yw lle mae therapyddion y dyfodol yn dysgu eu crefft. Mae bob un o’r triniaethau’n cael eu cynnal gan ein myfyrwyr o dan oruchwyliaeth ofalus ymarferwyr proffesiynol. Oherwydd ein bod yn ganolfan ddysgu, rydym ar agor yn ystod y tymor yn unig ac mae rhai triniaethau ar gael dim ond ar adegau penodol o'r flwyddyn oherwydd natur y cyrsiau felly cofiwch ffonio ymlaen llaw. Os nad ydych am dretio eich hunan, ond am roi triniaeth i rywun arall, gallwch gael mwy o wybodaeth am ein cyrsiau amser llawn a rhan-amser yma.