Skip to main content

Datganiad Hygyrchedd

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan Coleg Gŵyr Abertawe:  https://www.gcs.ac.uk/

Yn yr adroddiad hwn:

  1. Sut i gael y gorau o’n gwefan
  2. Statws cydymffurfio
  3. Cynnwys nad yw’n hygyrch
  4. Llunio’r datganiad hygyrchedd hwn
  5. Adborth a gwybodaeth gyswllt
  6. Gweithdrefn gorfodi

Sut i gael y gorau o’n gwefan

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi bod wrthi’n gweithio i wella profiad y dysgwr ar ein gwefan cyn ailddylunio ac ail-lansio’r wefan diwedd 2023.

Yn y cyfamser, dyma sut rydym wedi gweithio i roi profiad mor hygyrch ag y gallwn i chi. Rydym yn gwneud rhai awgrymiadau am ategion porwr yn yr adran isod. Gwneir y rhain yn ddidwyll i wella profiad y defnyddiwr, ond rydych chi’n eu defnyddio ar eich risg eich hun. Ni all y Coleg gymryd cyfrifoldeb am broblemau nas rhagwelwyd, ac ni allwn ddarparu cymorth technegol.

Testun i leferydd

Os yw’n well gennych wrando ar wybodaeth yn hytrach na’i darllen, gallwch ddefnyddio porwr Microsoft Edge. Mae’n cynnwys cyfleuster testun i leferydd fydd yn darllen bron pob darn o destun ar ein gwefan. 

Chwyddo

Gellir chwyddo’r wefan hyd at 400% a bydd y cynnwys yn ail-lifo i ffitio’r dudalen. Nid oes rhaid i chi sgrolio i’r chwith ac i’r dde i’w ddarllen. Defnyddiwch y bysellau CTRL a + i chwyddo i mewn neu CTRL ac – i chwyddo allan. Ar Mac defnyddiwch y bysellau Command + a – yn lle hynny. Mae’r wefan yn ymateb yn dda ar gyfrifiadur bwrdd gwaith ac ar ffôn symudol. Mae cynnwys newydd yn cael ei greu gan ddefnyddio templedi ymatebol i roi profiad chwyddo cyson i chi.

Oeddech chi’n gwybod? 
Gallwch chwyddo testun hefyd drwy newid maint y testun rhagosodedig yn y porwr o dan osodiadau eich porwr. Gall hyn chwyddo hyd at 200% ac mae modd ei ddefnyddio o hyd.

Llywio ac hygyrchedd y bysellfwrdd

Mynd o gwmpas y safle

Gallwch lywio’r safle mewn tair ffordd. 

  • Llywio lefel uchel gyson (testun gwyn ar liw pinc dwfn). 
  • Mae llwybrau briwsion bara ar gael ar gyfer rhai tudalennau ar lefel ddyfnach.
  • Defnyddio’r blwch chwilio.

Gellir cyrchu’r 3 opsiwn o’r bysellfwrdd neu’r llygoden.

Mynd o gwmpas tudalen

Mae tudalennau’r wefan yn defnyddio tagiau pennawd a meysydd cynnwys wedi’u labelu i roi strwythur defnyddiol i dudalennau. Gall defnyddwyr elwa drwy:

  • ddefnyddio ategion porwr fel  HeadingsMap for Chrome i lywio’n gyflym drwy’r dudalen
  • defnyddio trawiadau bysellau (keystrokes) rhaglenni darllen sgrin i bori yn ôl lefelau pennawd
  • defnyddio "dolenni neidio" i’ch gadael i osgoi blociau llywio ailadroddus.

Mynediad ar fysellfwrdd

Gellir llywio pob rhan o’r wefan gan ddefnyddio trawiadau bysellau safonol. Mae trefn y tabiau yn rhesymegol, ac mae’r eitem dan sylw wedi’i haroleuo.

Er enghraifft 

  • Mae’r tab yn symud ymlaen drwy’r elfennau gweithredol (e.e. hypergysylltiadau). Mae’r tab Shift yn symud yn ôl. 
  • Mae Enter yn cadarnhau’r dewisiadau. 
  • Mae bysellau saeth yn symud trwy’r opsiynau. 

Lliwiau

Rydym wedi gwella’r cyferbyniadau lliw ar y rhan fwyaf o’r wefan, ond mae rhai problemau o hyd (gweler Cynnwys nad yw’n Hygyrch isod). Gallwch newid eich cefndir lliw eich hun yng ngosodiadau eich porwr neu gydag ategion fel ScreenShader for Chrome. Os yw’n well gennych gyferbyniadau uwch, gellir cyflawni hyn trwy ddefnyddio’r gosodiadau hygyrchedd yn eich cyfrifiadur neu ategion porwr fel HighContrast for Chrome.

Amlgyfryngau

I lawer o bobl, mae fideos yn ffyrdd mwy effeithiol o ddeall gwybodaeth. Rydym yn defnyddio fideos ar lawer o dudalennau. Rydym yn ymdrechu i sicrhau bod y rhain yn cynnwys capsiynau cywir. Gellir gweithredu'r chwaraewr fideo ar y dudalen gan ddefnyddio llygoden neu fysellfwrdd. Mae’r botwm is-deitlo i'w weld ar y gwaelod ar ochr dde’r fideo pan fydd y fideo yn chwarae. Gellir troi hwn ymlaen neu i ffwrdd.

Delweddau

Mae gan ddelweddau ddisgrifiadau testun amgen priodol ar gyfer pobl sy’n defnyddio rhaglenni darllen sgrin. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod delweddau addurnol yn cael eu hanwybyddu.

Hypergysylltiadau

Rydym wedi gweithio i sicrhau bod testun unigryw ac ystyrlon gan y mwyafrif o hypergysylltiadau, gan osgoi defnyddio “cliciwch yma” neu URLs crai.

 

Statws cydymffurfio

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (CHCW) fersiwn 2.1, yn sgil yr hyn nad yw’n cydymffurfio â nhw sydd wedi’u rhestru isod. 

 

Cynnwys nad yw’n hygyrch

Nid yw’r cynnwys wedi’i restru isod yn hygyrch am y rheswm/rhesymau canlynol: 

Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd

Mae’r canlynol yn feysydd o’r wefan nad ydynt yn cydymffurfio eto. Rydym yn disgrifio’r mater ac yn darparu amserlen ar gyfer ei drwsio.

  • Mae’r ddolen neidio yn symud y dudalen i lawr ond nid yw’n symud ffocws y bysellfwrdd ar gyfer pobl sy’n defnyddio bysellfwrdd yn unig. Nid yw hyn yn bodloni 2.4.1: Osgoi blociau.
    Llinell amser = gwaith yn cael ei wneud ar hyn a dylai gael ei ddatrys cyn Pasg 2023.
  • Gwybodaeth wedi’i hailadrodd ar gyfer defnyddwyr rhaglenni darllen sgrin – mae sawl tudalen yn cynnwys dolenni dyblyg i’r un lleoliad – er enghraifft delwedd o gampws a dolen testun i’r campws. Mae hyn hefyd yn wir am y tudalennau Newyddion a digwyddiadau. Nid yw hyn yn bodloni 1.1.1: Cynnwys nad yw’n Destun a 2.4.4: Diben y Ddolen (Mewn Cyd-destun).
    Rydym yn bwriadu newid y tagiau dolen fel eu bod yn gweithio heb ailadrodd ar gyfer defnyddwyr rhaglenni darllen sgrin. Llinell amser = diwedd 2023.
  • Mae rhai tudalennau yn cynnwys yr un testun dolen ar gyfer gwahanol leoedd – er enghraifft “Rhagor o wybodaeth.” Mae hyn yn ei gwneud hi’n amhosibl i ddefnyddwyr rhaglenni darllen sgrin lywio gan ddefnyddio rhestr dolenni rhaglenni darllen sgrin. Mae hyn yn mynd yn groes i CHCW 2.4.4 Diben y Ddolen (Mewn Cyd-destun).
    Llinell amser = mae hon yn broses barhaus lle mae staff yn cael eu hyfforddi ar arferion gorau wrth greu hypergysylltiadau. Ein nod yw rhoi sylw i’r rhain wrth lansio’r wefan newydd.
  • Cyferbyniadau lliw. Rydym wedi gwella cyferbyniadau lliw dros y rhan fwyaf o’r wefan ond mae rhai tudalennau gyda chefndir oren ar destun gwyn lle mae cyferbyniadau’n methu (CHCW 1.4.3: Cyferbyniad lleiaf). Rydym yn gweithio gyda’r adran Farchnata i sicrhau bod pob lliw ar y wefan newydd yn bodloni gofynion cyferbyniad.
    Llinell amser = lansio gwefan newydd diwedd 23
  • Lliw fel dangosydd unigol. Mae gan nifer fach o dudalennau destun hyperddolen wedi’i wahaniaethu gan liw yn unig heb unrhyw danlinellu na dangosydd gweledol arall. Nid yw hyn yn bodloni CHCW 1.4.1: Defnydd o liw.
    Llinell amser = cyn Pasg 2023.
  • Weithiau mae gan rai tudalennau sy’n cynnwys llywio briwsion bara enwau dyblyg ar gyfer tirnodau llywio. Nid yw hyn yn bodloni CHCW 1.3.1: Gwybodaeth a pherthnasoedd.
    Llinell amser = cyn Pasg 2023.

Baich anghymesur

Aethpwyd i’r afael â’r rhan fwyaf o’r materion hysbys ar y wefan bresennol neu mae gennym amserlen glir ar gyfer eu trwsio, ond credwn y byddai rhai ohonynt yn faich anghymesur pan fyddwch yn cydbwyso’r gost ddisgwyliedig o’u trwsio â’r niferoedd tebygol yr effeithir arnynt a’r cyfnod byr sydd gennym cyn disodli’r wefan bresennol diwedd 2023. Dyma’r materion sy’n weddill yr ydym yn hawlio baich anghymesur amdanynt. Byddwn yn ailystyried hyn adeg yr adolygiad blynyddol o’r datganiad hygyrchedd.

  • Swyddogaeth “Slick Slider” ar y dudalen gartref. (CHCW 2.2.2 Rhewi, Stopio, Cuddio). Rydym wedi gwella gwelededd ffocws bysellfwrdd a labelu hygyrch, ond dim ond gyda llygoden y gellir ei rewi ar hyn o bryd. Mae hen briodweddau y llithrydd yn golygu nad yw hwn yn ateb cyflym ac – o ystyried y newid i wefan newydd yn ddiweddarach eleni a’r nifer fach iawn o ddefnyddwyr sy’n debygol o gael eu heffeithio, ystyriwn fod hyn yn faich anghymesur a fydd yn cael ei drwsio wrth ddylunio’r wefan newydd. Mae hyn bellach wedi'i ddatrys o Haf 2023 a bydd hefyd yn fater nad yw'n fater ar y wefan newydd sydd i ddod.
  • Disgrifiad sain fideo. Lle mae fideos yn rhoi cyflwyniad i wahanol gampysau, nid ydynt ar hyn o bryd yn defnyddio disgrifiadau sain o’r delweddau gweledol. Byddai llawer o’r delweddau’n cael eu hystyried yn addurniadol pe bai mewn fformat “delwedd llonydd”. Ystyriwn fod yr amser a’r adnoddau sydd eu hangen ar gyfer disgrifiadau sain ystyrlon yn anghymesur â’r budd bach y byddai’n ei ddarparu, yn bennaf oherwydd y byddai myfyrwyr dall yn cael cyfleoedd ymgyfarwyddo a llywio helaeth fel rhan o gynllun cymorth.
  • PDFs. Mae llawer o hen PDFs ar y wefan. Mae’r rhain wedi’u creu gan wahanol awduron â lefelau gwahanol o hyfforddiant hygyrchedd gan ddefnyddio gwahanol offer. Mae trafodaethau coleg yn cael eu cynnal i benderfynu ai adfer neu ail-greu’r dogfennau mewn fersiynau HTML yw’r dull mwyaf effeithiol. Mae staff yn cael eu hyfforddi i greu dogfennau hygyrch. Ystyriwn ei bod yn faich anghymesur i drwsio’r cynnwys ar y wefan bresennol yn hytrach na blaenoriaethu gwelliannau ar y wefan newydd.

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

  • PDFs – mae rhai o’n PDFs yn rhagddyddio 23 Medi, 2018, ac nid oes eu hangen “ar gyfer prosesau gweinyddol gweithredol” felly maent y tu allan i’r cwmpas. Fodd bynnag, byddwn yn ceisio darparu fformat mwy hygyrch ar gais (gweler y manylion cyswllt isod).
  • Mae sawl tudalen yn cynnwys mapiau ar-lein i ategu’r cyfeiriad a’r wybodaeth gyswllt (er enghraifft lleoliad Campws Gorseinon. Mae’r rhain y tu allan i’r cwmpas ac mae gwybodaeth am gyfeiriadau ar gael mewn fformat testun.

 

Llunio’r datganiad hygyrchedd hwn

Lluniwyd y datganiad hwn ar 16 Ionawr 2023. 

Datblygwyd y datganiad hwn fel ymateb i’r adolygiad a gynhaliwyd gan dîm monitro hygyrchedd gwefan Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth (GDLl). Yn ogystal â’r adroddiad hwn, rydym hefyd wedi ymgynghori ag arbenigwyr, ac mae’r canlyniadau wedi mynd y tu hwnt i ganlyniadau canfyddiadau GDLl ym mis Hydref 2022.

Cynhaliwyd profion ar sampl o dudalennau gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau profi â llaw ac awtomataidd gan gynnwys profion bysellfwrdd, profion rhaglenni darllen sgrin (NVDA a Windows Narrator), profion ategion porwr a thriongli gydag offer WAVE, SiteImprove ac Accessibility Insights.

Adolygwyd y datganiad ddiwethaf ar. 

29 Mehefin 2023

 

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Cysylltwch â ni drwy e-bostio Simon Palmer yn  digitalaccessibility@coleggwyrabertawe.ac.uk

Cysylltwch â ni 

  • i’n helpu i wella ein hygyrchedd (er enghraifft rhoi gwybod i ni am unrhyw fethiannau cydymffurfio na welsom) 
  • i ofyn am fformat arall (er enghraifft os nad yw PDF yn hygyrch) 
  • i ofyn am wybodaeth neu gynnwys sydd wedi’i eithrio o’r Gyfarwyddeb.

Gweithdrefn gorfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). 

Os ydych yn anhapus â’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).