Skip to main content
Cricket Academy

Academi Criced

Yn yr Academi Criced, cewch eich hyfforddi gan chwaraewyr proffesiynol Clwb Criced Sir Forgannwg Alan Jones a Mike O’Brien a fydd yn canolbwyntio ar agweddau corfforol, technegol a seicolegol y gêm. Bydd hyfforddiant yn cael ei gynnal mewn amrywiaeth o gyfleusterau lleol gan gynnwys Ysgol Dan Do Castell-nedd, Clwb Iechyd a Racedi Morgannwg, Clwb Criced Gorseinon a Phentref Chwaraeon Prifysgol Abertawe.

Bydd taith myfyrwyr trwy’r rhaglen yn cael ei haddasu i weddu i’w hanghenion unigol.

Fel gydag Academïau Chwaraeon eraill, bydd astudiaethau academaidd yn parhau i fod yn ffocws, a bydd datblygu sgiliau criced a hyfforddiant yn cael eu hymgorffori yn yr amserlen mewn ffordd fydd yn gweddu i chi orau.

Cystadlu i ennill
Bydd myfyrwyr yn yr Academi yn gallu cystadlu ledled y wlad mewn gwahanol dwrnameintiau – ffordd ardderchog o gwrdd â phobl newydd, ymweld â lleoedd newydd, profi’ch sgiliau ac ymestyn eich cyhyrau cystadleuol!

Dyma syniad o’r hyn sydd wedi’i gynnwys ar yr amserlen o gystadlaethau mewn blwyddyn yn Academi Criced Coleg Gŵyr Abertawe:

• Twrnamaint Colegau Elit Prifysgol Loughborough
• Twrnamaint drwy wahoddiad T20 Coleg Crist Aberhonddu
• Gêm ddeuddydd yn erbyn tîm dethol X1 Cymru
• Gemau rheolaidd yn erbyn ysgolion cyhoeddus fel Ysgol Trefynwy
• Cwpan T20 Chwaraeon BCS

Os ydych eisoes yn rhan o glwb, gall chwaraewyr yn yr Academi aros yn eu clwb a pharhau i fod yn gymwys i gynrychioli’r Coleg.

Bod yn gricedwr o’r radd flaenaf
Mae’r Academi wedi datblygu nifer o chwaraewyr dros y blynyddoedd, ac mae llawer ohonynt wedi symud ymlaen i chwarae criced o’r radd flaenaf a chriced cynrychiadol, gan gynnwys Scott Phillips sydd bellach yn chwarae i Glwb Criced Swydd Gaerloyw, Ail XI Morgannwg a Siroedd Llai Cymru:

“Roedd yr Academi wedi rhoi blas da i mi o’r ymrwymiadau a ddisgwylir gen i i fod yn gricedwr proffesiynol. Roedd y sesiynau yn y gampfa, seicoleg, rhwydi maeth a sesiynau un i un bob wythnos wedi fy helpu i i wella pob agwedd ar fy nghriced a dwi’n credu fy mod i wedi elwa arno.”

Mae myfyrwyr yr Academi yn cael lle yn rheolaidd mewn prifysgolion lefel uchel i astudio ar gyfer gyrfa mewn hyfforddi chwaraeon, y diwydiant ffitrwydd neu addysg ac ar yr un pryd gallan nhw chwarae criced o’r radd flaenaf. Mae Rhodri Evans ym Mhrifysgol Loughborough, ac yn chwarae i XI Cyntaf MCCU Loughborough ac Ail XI Morgannwg:

“Yn sicr roedd Academi Criced y Coleg wedi fy helpu i i wella fy ngêm ym mhob agwedd. Roedd safon yr hyfforddi o ran cryfder a chyflyru, agweddau technegol a thactegol criced yn uchel iawn. Yr hyn wnaeth greu argraff arna i fwya’ am y rhaglen oedd y cyfleusterau sydd ar gael i fyfyrwyr gan gynnwys rhwydi dan do, ardal maesu, campfa a mynediad i bwll nofio. Roedd yn gam perffaith tuag at fynd i Brifysgol Loughborough.”

Ffocws ar hyfforddwyr
Mike O’Brien, Cyfarwyddwr Criced
Bywgraffiad: Mae Mike yn Seicolegydd Perfformiad Achrededig gyda Chymdeithas Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff Prydain. Yn ogystal â gweithio i’r Academi, mae’n gweithio’n agos gyda Chlwb Criced Sir Forgannwg i ddarparu cymorth ac arweiniad gwyddor chwaraeon i chwaraewyr.
Profiad: Mae gan Mike lawer o flynyddoedd o brofiad yn ei faes, yn ogystal â phrofiad o hyfforddi a chwarae. Mae wedi gweithio gyda’r Academi er 2000.

Alan Jones, Prif Hyfforddwr
Bywgraffiad: Mae gan Alan brofiad o hyfforddi yn gweithio gyda Morgannwg ac i Gymru, mae’n cael ei gydnabod yn rhyngwladol am ei gyfraniad i griced
Profiad: Roedd Alan yn chwaraewr criced proffesiynol am 22 o flynyddoedd. Mae ei gyflawniadau yn cynnwys sgorio dros 36,000 o rediadau o’r radd flaenaf a chael ei enwi’n Gricedwr Wisden y Flwyddyn ym 1978. Mae’n dod â’i holl arbenigedd a gwybodaeth i Goleg Gŵyr Abertawe.

Mae myfyrwyr sy’n awyddus i ddysgu am hyfforddi yn cael cyfle i ddatblygu eu sgiliau trwy hyfforddi disgyblion mewn ysgolion cynradd lleol – ffordd wych o fagu hyder, addysgu eraill a chynnal y gamp. Mae’r Academi hefyd yn mwynhau cysylltiadau gwaith â chlybiau lleol ar statws Uwch-gynghrair, yn ogystal â chlybiau sirol fel Morgannwg, Northants a Swydd Gaerwrangon. Yn aml caiff myfyrywr eu galw i gael treial gyda thimau proffesiynol. Hyd yn oed ymhellach i ffwrdd, bydd teithiau rhyngwladol yn mynd â chi i bedwar ban byd, ac ar hyn o bryd mae teithiau Academi yn cael eu cynllunio ar gyfer y dyfodol i Sbaen, India’r Gorllewin a Dubai.

I ddysgu rhagor am yr Academi Criced ffoniwch:
01792 284000
academy@coleggwyrabertawe.ac.uk
mike.obrien@coleggwyrabertawe.ac.uk