Skip to main content

Sgiliau Byw’n Annibynnol (SBA)

Mae’r adran SBA yn cynnwys tua 160 o fyfyrwyr â galluoedd ac anghenion amrywiol. Rydyn ni’n gweithio ar gwricwlwm sy’n ceisio bodloni canlyniadau dymunol a nodau dyheadol y dysgwyr. Mae’r cwricwlwm SBA yn seiliedig ar bedair colofn:

  • Cyflogadwyedd
  • Cymuned
  • Sgiliau byw’n annibynnol
  • Iechyd a lles.

Ar ddechrau’r tymor cyntaf, cewch eich asesu a’ch rhoi ar lwybr priodol. Mae tair lefel llwybr a bydd targedau unigol yn cael eu gosod ar gyfer pob dysgwr ar gyfer pob un o’r pedair colofn. Byddwch chi’n gweithio tuag at y targedau hyn trwy amrywiaeth o brosiectau a gweithgareddau yn y gymuned. Byddwn ni’n adolygu’ch cynnydd bob tymor.

Bydd llythrennedd a rhifedd yn cael eu cynnwys yn y pedair colofn ac felly byddwch chi’n parhau i weithio ar y sgiliau hyn yn ystod eich cyfnod yn y Coleg. Bydd myfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau Llwybr 3 hefyd yn cael gwersi rhifedd a llythrennedd i gefnogi eu dilyniant yn y Coleg neu i gael gwaith. Cewch gyfle hefyd i wella’ch graddau TGAU Mathemateg a Saesneg.

Rhaglen Empathi Dwbl (dysgwyr awtistig)

Bwriad y cwrs hwn yw cefnogi cyfnod pontio myfyrwyr awtistig sydd fel arfer yn cynllunio dilyn cwrs prif ffrwd ond sydd angen amser ychwanegol i baratoi ar gyfer hyn.

Cewch gyfle hefyd i wella’ch graddau TGAU Mathemateg a Saesneg os yw hyn yn flaenoriaeth ar gyfer eich cam nesaf.

Beth yw manteision darpariaeth anachrededig i ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol?

  • Mae’n caniatáu ar gyfer mwy o bersonoli yn eich astudiaethau
  • Mae’n haws adeiladu cwricwlwm o gwmpas eich anghenion a’ch diddordebau
  • Mae’r cyflymder dysgu yn gallu cael ei arwain gan eich cynnydd
  • Mae’n gallu cael ei gysylltu’n agos â’ch nodau a’ch canlyniadau a gynlluniwyd 
  • Mae’n haws adnabod camau bach o ran cynnydd a chyflawniadau
  • Hyblygrwydd.

Cwestiynau cyffredin

Bydd hyn yn dibynnu ar y llwybr rydych chi’n ei ddilyn. 

Llwybr 1 (pedwar diwrnod)
Llwybr 2 (pedwar diwrnod)
Llwybr 3 (tri diwrnod)
Cwrs awtistiaeth (pedwar diwrnod)

Mae pob cwrs yn rhedeg am un flwyddyn academaidd. Ar ddiwedd pob blwyddyn, byddwch chi’n cael adolygiad i benderfynu ai blwyddyn arall yw’r opsiwn gorau i chi. Bydd y rhan fwyaf o ddysgwyr yn treulio dwy neu dair blynedd yn llawn amser yn yr adran, yn dibynnu ar ddilyniant a llwybrau.

Bydd pob myfyriwr yn cael tiwtor personol ynghyd â gweithiwr cymorth a fydd yn bwynt cyswllt i chi. Efallai y bydd angen cymorth ychwanegol ar rai dysgwyr yn dibynnu ar eu hanghenion. Gwneir y trefniadau hyn gyda’r rheolwr cymorth cyn dod i’r Coleg.

Mae gan y Coleg dîm o Swyddogion Cymorth Myfyrwyr sydd ar gael i fyfyrwyr sydd angen cymorth ychwanegol y tu allan i’w hastudiaethau. Gall y Swyddogion hyn gynorthwyo gydag amrywiaeth o faterion a all godi yn ystod y flwyddyn academaidd.

Ar gyfer mathemateg, rhifedd a Saesneg iaith, gallai hyn fod yn opsiwn a bydd angen i chi gael eich asesu gan ein tîm TGAU i weld a yw hyn yn bosibilrwydd. Mae rhai dosbarthiadau TGAU yn rhedeg y tu allan i’r cwricwlwm SBA felly efallai y bydd angen i chi wneud eich trefniadau eich hun i fynychu’r dosbarthiadau hyn.

Os yw hyn yn rhan o’r llwybr rydych chi arno ac yn rhywbeth yr hoffech chi ei wneud, gallwn ni archwilio’r opsiwn hwn gyda’n tîm profiad gwaith.

Yn dibynnu ar eich dilyniant yn y Coleg, gallech chi wneud y canlynol:

  • Cyflogaeth gefnogol â thâl
  • Interniaeth â chymorth
  • Symud ymlaen i lefel uwch addysg bellach
  • Cyrchu gwasanaethau i oedolion
  • Cyflogaeth amser llawn neu ran-amser
  • Cyrsiau rhan-amser.