Skip to main content
Rugby Academy

Academi Rygbi

Mae’r Coleg wedi derbyn trwydded Rhaglen Rygbi mewn Addysg Undeb Rygbi Cymru ac yn cystadlu yn y Cynghrair Ysgolion a Cholegau Elit: y cynghrair uchaf sydd ar gael i sefydliadau addysg yng Nghymru. Rydym hefyd yn cystadlu yn y twrnameintiau saith-bob-ochr mwyaf yn y DU. 

Nod yr Academi Rygbi Elit yw paratoi chwaraewyr ar gyfer pontio i’r gêm broffesiynol neu uwch. Mae aelodau yn cael 12 awr o amser cyswllt bob wythnos gan ein tîm hyfforddi hynod fedrus, sy’n cyd-fynd â’u haddysg. Mae amserlen yr Academi yn cynnwys sesiynau sgiliau, cryfder a chyflyru, dadansoddi perfformiad, clinigau meddygol, sesiynau un-i-un a sesiynau datblygiad cyfannol. Mae rhaglen a llwybr ar gyfer chwaraewyr rygbi merched hefyd.

Yn ogystal, rydym yn rhedeg tîm datblygu llwyddiannus i’r chwaraewyr hynny sydd am chwarae fel gweithgaredd hamdden ochr yn ochr â’u hastudiaethau. 

I ddysgu rhagor am yr Academi Rygbi:
01792 284000
academy@coleggwyrabertawe.ac.uk
daniel.cluroe@coleggwyrabertawe.ac.uk