Skip to main content

Cymorth

Cymorth i fyfyrwyr

Gwasanaethau Myfyrwyr yw’r pwynt cyswllt cyntaf i fynd iddo i gael gwybodaeth, cymorth a chyngor ar bopeth o yrfaoedd i gymorth ariannol. Mae ein staff sy’n cynnig cymorth arbenigol i’r myfyrwyr ar gael ar gampws Llwyn y Bryn, Tycoch a Gorseinon.

Cymorth dysgu

Rydym yn darparu cymorth arbenigol i fyfyrwyr ag anableddau neu anghenion dysgu ychwanegol. Rydym hefyd yn gallu gwneud cais am gyllid os oes angen offer arbenigol arnoch.

Cymorth ariannol

Gall arian fod yn gymhleth ac mae llawer i’w ddeall. Gobeithio y bydd yr wybodaeth isod yn rhoi’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch.

Os ydych chi’n ddinesydd y DU neu’r AEE a fydd yn astudio addysg bellach yn y Coleg yn amser llawn (15+ awr yr wythnos) nid oes rhaid i chi dalu ffioedd dysgu, ond bydd rhaid i’r holl fyfyrwyr amser llawn dalu ffi gofrestru pan fyddan nhw’n ymuno â’r Coleg.

Ar rai cyrsiau, e.e. trin gwallt, arlwyo neu'r celfyddydau, gall fod costau ychwanegol i'w talu ar gyfer cyfarpar neu ddillad arbenigol. Rhoddir manylion i chi yn ystod y broses ymgeisio a chofrestru.

Os ydych yn ymuno â’r coleg yn rhan-amser, bydd gofyn i chi dalu ffioedd dysgu. Argymhellir eich bod yn ceisio arweiniad gan eich cydlynydd cwrs cyn cofrestru i sicrhau bod gennych yr holl wybodaeth am y ffioedd sy’n gysylltiedig â’r cwrs o’ch dewis.

Er enghraifft, bydd gofyn i fyfyrwyr sy’n astudio cymhwyster proffesiynol a redir gan sefydliad siartredig dalu ffi am bob arholiad maen nhw’n ei sefyll, ac felly mae’n werth cael y ffeithiau i gyd cyn penderfynu.

O ran ffioedd cyrsiau unigol o £100 neu fwy, gallwch wneud cais i dalu mewn rhandaliadau (codir ffi weinyddu o £10 am hyn).

Mae ffioedd dysgu ar gyfer Myfyrwyr Rhyngwladol.

Yn y Coleg deallwn fod amgylchiadau pawb yn wahanol, felly gwnawn ein gorau i'w gwneud hi mor hawdd â phosib i bobl astudio'r cwrs o'u dewis, hyd yn oed os yw'n golygu y bydd rhaid i chi gael hyd i ychydig o arian ychwanegol i dalu am gostau cyfarpar neu ddeunyddiau dysgu. Mae amrywiaeth o gymorth ariannol ar gael i fyfyrwyr sy'n astudio yn y Coleg.

I siarad ag aelod o’r Tîm Cyllid Myfyrwyr, ffoniwch Gampws Gorseinon ar 01792 890700 / 07500 559123 neu Gampws Tycoch ar 01792 284000 / 07500 559246 neu e-bostiwch studentfunding@gcs.ac.uk.

Lwfans Cynhaliaeth Addysg [LCA]
Mae’r LCA yn grant prawf modd o £40 yr wythnos sy’n ceisio helpu pobl ifanc 16-18 oed gyda chostau addysg bellach.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan LCA  neu cysylltwch â'r Coleg yn Nhycoch ar 01792 284000 neu yng Ngorseinon ar 01792 890700. Mae ffurflenni cais Cyllid Myfyrwyr Cymru ar gael yn swyddfa cyllid myfyrwyr y Coleg.

Y Gronfa Ariannol Wrth Gefn [CAWG]
Mae’r CAWG yn gronfa caledi sy’n agored i fyfyrwyr amser llawn. Gall y gronfa helpu i gefnogi costau hanfodol cysylltiedig â chyrsiau fel offer cwrs, llyfrau, gofal plant, gwiriadau DBS a chludiant.

Mae’r CAWG yn dibynnu ar brawf modd seiliedig ar incwm y cartref sy’n rhaid bod yn llai nag £21,000 y flwyddyn er mwyn i fyfyrwyr fod yn gymwys. Dyrennir arian ar sail y cyntaf i’r felin. Bydd angen i chi ddarparu prawf o incwm y cartref ac, os yw’n berthnasol, prawf o’ch statws preswyl.

Mae Cronfa Ariannol Wrth Gefn (CAWG) y Coleg yn agor ddydd Llun 3 Mehefin 2024. Mae ffurflenni cais ar gael ar-lein neu o’r swyddfa cyllid myfyrwyr yn y Coleg ar ôl y dyddiad hwn.

Grant Dysgu Llywodraeth Cymru ar gyfer AB (GDLlC)
Mae GDLlC yn grant prawf modd sy’n darparu cyllid i helpu gyda chostau eich addysg os ydych chi’n 19 oed neu hŷn. Os ydych yn astudio’n amser llawn, fe allech chi gael taliadau o hyd at £1,500 y flwyddyn neu, os ydych yn astudio’n rhan-amser, fe allech chi gael hyd at £750 y flwyddyn.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru neu cysylltwch â’r Coleg yn Nhycoch ar 01792 284000 neu yng Ngorseinon ar 01792 890700. Mae ffurflenni cais ar gael o Cyllid Myfyrwyr Cymru neu yn swyddfa cyllid myfyrwyr y Coleg.

Oes rhaid i mi dalu am wiriad DBS?
Yn ystod y cyfweliad byddwn wedi dweud wrthych a oes angen gwiriad DBS arnoch er mwyn mynd ar leoliad gwaith strwythuredig fel rhan o'ch cwrs. Bydd y gwiriad yn costio £38, ond gall hyn newid (gallwch wneud cais am arian CAWG i dalu'r gost). Os nad ydych yn caael gwiriad DBS ni fyddwch yn gallu cwblhau'ch cwrs.

Teithio

Ar hyn o bryd mae tocyn bws wedi’i gymorthdalu ar gael i’r myfyrwyr amser llawn.

Yn Nhycoch, Ffordd y Brenin a Llwyn y Bryn gall myfyrwyr brynu Tocyn Bws First Cymru. Gallwch ddefnyddio’r tocyn hwn i gyrraedd a gadael y coleg a gallwch ei ddefnyddio gyda’r hwyr ac yn ystod y penwythnos yn ardaloedd Abertawe a Chastell-nedd ar fysiau First Cymru.

Darganfod mwy am docynnau bws

Bus-icon