Skip to main content

Cymorth dysgu i fyfyrwyr addysg uwch

Gallwn ni roi cymorth arbenigol i chi drwy gydol eich amser yn y Coleg. Rydyn ni’n fwy na pharod i ateb anghenion amrywiaeth eang o gyflyrau niwroamrywiaeth gan gynnwys dyslecsia, dyspracsia, dyscalcwlia, ADHD, awtistiaeth, ac anhwylder datblygu iaith. 

Gallwn ni roi cymorth ar gyfer pob anabledd corfforol gan gynnwys nam ar y golwg/clyw, problemau symudedd a chlefydau difrifol.

Efallai eich bod wedi cael cymorth yn yr ysgol neu’r gweithle yn barod, sydd wedi eich helpu i lwyddo. Rhowch wybod i ni fel y gallwn ni geisio sicrhau bod hyn yn parhau i chi. 

Nid yw pawb yn gwybod pa gymorth sydd orau i’w hanghenion ac felly, os nad ydych chi’n siŵr, siaradwch â’r tîm i weld sut y gallwn ni helpu gyda hyn. 

Hilary Langston
Hilary.Langston@gcs.ac.uk

Lwfans i Fyfyrwyr Anabl (LFA)

Mae LFA yn gynllun a ariennir gan y llywodraeth nad yw’n dibynnu ar brawf modd a allai fod ar gael i fyfyrwyr ag anabledd, gan gynnwys anawsterau dysgu penodol. 
Gallwn ni eich helpu i wneud cais am LFA a threfnu cymorth ariannol. 

I wneud cais, bydd rhaid i chi lenwi ffurflen DSA1 a darparu tystiolaeth o’ch cyflwr. Gallwn ni eich helpu gyda hyn. Rydyn ni’n awgrymu eich bod yn gwneud cais cyn gynted ag sy’ Bydd y ddolen hon yn cefnogi’ch cais am LFA.

Cwestiynau Cyffredin

Rydyn ni eisiau parhau i roi’r cymorth sydd ei angen arnoch. Ond mae cymorth mewn addysg uwch yn cael ei ddarparu trwy’r LFA ac felly, er mwyn i’r cymorth barhau, rhaid i chi wneud cais cyn gynted ag sy’n bosibl. Gallwn ni eich helpu gyda hyn.

Ni fydd unrhyw cymorth arholiadau a gawsoch yn yr ysgol neu’r coleg, fel amser ychwanegol neu ddefnyddio cyfrifiadur, yn parhau’n awtomatig i addysg uwch. Bydd rhaid i chi gysylltu â ni fel y gallwn ni roi hyn ar waith yn ôl gofynion y brifysgol sy’n gysylltiedig â’ch cwrs.

Gall sgiliau astudio un-i-un arbenigol gynnwys:

  • Sut i wella eich aseiniadau
  • Adolygu’n effeithiol ar gyfer arholiadau
  • Trefnu eich amser, eich hun a’ch gwaith
  • Sgiliau ymchwil
  • Strategaethau prawfddarllen
  • Deall eich anawsterau a datblygu strategaethau i ddysgu
  • Defnyddio technoleg gynorthwyol.

Mae gwybodaeth am eich anghenion ychwanegol yn gyfrinachol nes eich bod yn llofnodi datganiad sy’n rhoi datgeliad. Bydd sesiynau cymorth un-i-un yn cael eu trefnu i weddu i amserlenni, anghenion ac argaeledd y myfyriwr.

Gallwch ddod i drafod hyn gyda ni, ac yna efallai y byddwn ni’n cynnal prawf sgrinio cychwynnol neu ofyn am ragor o wybodaeth i weld a allech chi fod yn gymwys i’w gael.