Skip to main content
Netball Academy

Academi Pêl-rwyd

Mae Academi Pêl-rwyd CGA yn rhoi cyfle i fyfyrwyr hyfforddi a chwarae mewn amgylchedd perfformiad uchel yn lleol ac yn genedlaethol ochr yn ochr â’u hastudiaethau academaidd.

Maen nhw’n cystadlu ar y lefel uchaf o fewn cynghreiriau AOC (Cymdeithas y Colegau), gan gynnwys yr Uwch-gynghrair lle maen nhw’n wynebu’r colegau pêl-rwyd gorau yn y DU, a chyngrair Cymru lle maen nhw wedi cael llawer o fuddugoliaethau.

Mae myfyrwyr yn elwa ar hyfforddi gan staff hynod gymwysedig, a llwybr datblygu chwaraewyr sy’n cwmpasu pob agwedd ar y gêm gan gynnwys cryfder a chyflyru, dadansoddi perfformiad ac adolygiadau unigol.

Mae’r Coleg yn cynrychioli Cymru yn rheolaidd ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol AOC, gyda myfyrwyr yn ennill anrhydeddau cenedlaethol a rhyngwladol ar draws sawl llwybr Pêl-rwyd Cymru. 

I ddysgu rhagor am yr Academi Pêl-rwyd:
Ffoniwch: 01792 284000
Neu e-bostiwch:
academy@coleggwyrabertawe.ac.uk
sarah.lewis@coleggwyrabertawe.ac.uk