Gwasanaeth Cwsmeriaid Lefel 2 - Cymwysterau
Trosolwg
Mae Gwasanaeth Cwsmeriaid yn gymhwyster wedi’i ariannu’n llawn i’r rhai sydd mewn rôl gwasanaeth cwsmeriaid. Gallai dysgwyr fod yn gweithio ym meysydd gwerthu, adwerthu, gweinyddu, canolfannau cyswllt, iechyd a gofal cymdeithasol, a nifer o ddiwydiannau eraill.
Gellir defnyddio’r cymhwyster i uwchsgilio staff newydd neu staff sydd eisoes gyda chi. Mae rolau addas yn cynnwys cynorthwywyr gwasanaeth cwsmeriaid, cynrychiolwyr gwasanaeth cwsmeriaid, derbynyddion, rheolwyr cysylltiadau cwsmeriaid, cydlynwur ac arweinwyr tîm.
Mae Gwasanaeth Cwsmeriaid ar gael fel NVQ yn ogystal â phrentisiaeth.
Gwybodaeth allweddol
I fod yn gymwys ar gyfer cyllid prentisiaeth, rhaid i’r prentis fod yn gyflogedig am fwy nag 16 awr yr wythnos ac wedi’i leoli yng Nghymru.
Gall y cymhwyster ddechrau ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn. Mae’n cael ei haddysgu i grwpiau a/neu unigolion gan ddefnyddio dull dysgu cyfunol trwy Teams/Skype/Zoom fel y bo’n briodol. Fel arfer bydd y dysgwyr yn cael sesiynau a chyfarfodydd gyda’r tiwtor/aseswr bob 3 i 4 wythnos.
Unedau gorfodol
- Darparu gwasanaeth cwsmeriaid
- Deall cwsmeriaid
- Egwyddorion gwasanaeth cwsmeriaid
- Deall sefydliadau cyflogwyr
- Rheoli perfformiad a datblygiad personol
Unedau dewisol
Bydd eich tiwtor/aseswr yn gweithio gyda chi i nodi pa unedau dewisol sy’n addas i’ch rôl a’ch cyfrifoldebau, ond rydym yn argymell y canlynol:
- Cyfathrebu â chwsmeriaid ar lafar
- Cyfathrebu â chwsmeriaid yn ysgrifenedig
- Delio â galwadau sy’n dod i mewn gan gwsmeriaid
- Ffonio cwsmeriaid
- Prosesu gwybodaeth am gwsmeriaid
- Datrys problemau gwasanaeth cwsmeriaid
- Defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid
- Datblygyu cysylltiadau cwsmeriaid
- Hawliau a chyfrifoldebau gweithwyr
Gwasanaeth Cwsmeriaid Lefel 3 - Prentisiaeth
Fel rhan o’r brentisiaeth, bydd unedau gorfodol a dewisol yn cael eu hasesu fel e-bortffolio seiliedig ar dystiolaeth, a fydd yn cynnwys gweithgareddau seiliedig ar wybodaeth a chymhwysedd. Gall y rhain gynnwys astudiaethau achos seiliedig ar waith, datganiadau gan dystion, arsylwadau, datganiadau personol a holi ynghylch gwybodaeth.