Yr wythnos hon (dydd Mercher 25 Mai) bydd Ysgol Fusnes Plas Sgeti yn croesawu Chris Brindley MBE i gyflwyno dosbarth meistr arweinyddiaeth a rheolaeth.
Bydd dysgwyr cyrsiau HND a BA Rheoli Busnes a’r rhai sy’n astudio cyrsiau rheoli proffesiynol yn bresennol yn nosbarth meistr cyn-reolwr gyfarwyddwr Metro Bank.
Fel prif siaradwr profiadol, bydd Chris yn trafod Creu amgylchedd perfformiad uchel mewn busnes i aelodau staff a Dull safonau uchel o ymdrin â pherfformiad personol gyda myfyrwyr. Bydd Chris yn defnyddio ei brofiad fel ffigwr busnes arweiniol a’i wybodaeth gynhwysfawr o arweinyddiaeth i redeg gweithdai a chyflwyniadau sy’n cael effaith fawr.
“Bydd y cyfle i gael siaradwyr gwadd proffil uchel a dosbarthiadau meistr yn rhoi modd i’n staff a’n dysgwyr werthfawrogi a chael profiad o theori arweinyddiaeth a rheolaeth mewn cyd-destun bywyd go iawn” dywedodd Rheolwr Maes Dysgu Busnes a Thechnoleg, Darren Fountain.
“Bydd y cyfoethogi ymarferol hwn yn rhoi modd i’n staff a’n dysgwyr dystio sut mae busnes yn gosod cyfeiriad strategol a chlywed sut mae arweinwyr yn rheoli eu hunain ac eraill tuag at gyflawni’r cyfeiriad hwn” ychwanegodd.
Ariennir y dosbarth meistr gan Gynllun Trosglwyddo Gwybodaeth Llywodraeth Cymru. Mae’n gysyniad newydd ar gyfer colegau er mwyn cyllido gweithgareddau dysgu gyda’r nod o gyflymu a chynyddu arbenigedd i fyfyrwyr a staff.
Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi sicrhau arweinwyr diwydiant o fyd busnes, y celfyddydau creadigol, harddwch, digidol, arlwyo a thwristiaeth i gyflwyno dosbarthiadau meistr dros y misoedd nesaf.
Ychwanegodd Darren: “Mae’r grant hwn wedi rhoi modd i ni ymgysylltu ymhellach â’n gweledigaeth ar gyfer Ysgol Fusnes Plas Sgeti sef rhoi ffocws i arweinyddiaeth a rheolaeth.
Mae’n rhoi modd i ni gyfoethogi ein rhaglenni rheoli busnes addysg uwch newydd yn ogystal â’n cyrsiau rheoli proffesiynol drwy gyfeirio cyfleoedd dilyniant yn y Coleg. Ymhen amser, dylai hyn arwain at ddatblygu llwybrau dysgu newydd ar lefel uwch a gwella profiad y dysgwr.”
I gael gwybodaeth am ein cyrsiau addysg uwch mewn cyfrifeg, busnes a’r gyfraith ewch i adran Addysg Uwch y wefan.
I gael gwybodaeth am ein cyrsiau Arweinyddiaeth a Rheolaeth ewch i wefan Hyfforddiant GCS.