Pan fydd tymor yr haf yn dod i ben ym mis Gorffennaf, bydd y myfyriwr Matthew Allen o Goleg Gŵyr Abertawe yn hel ei bac i fynd i Los Angeles.
Mae Matthew, myfyriwr Sgiliau Byw’n Annibynnol, ar fin cymryd rhan yng Ngemau Olympaidd Arbennig y Byd. Mae wedi cael ei ddewis i gynrychioli Tîm Prydain Fawr mewn nofio.
Matthew, sydd hefyd yn dioddef o awtistiaeth, yw’r unig nofiwr o Gymru i gael ei ddewis ar gyfer y digwyddiad hwn. Eisoes, mae ganddo hanes llwyddiannus yn y Gemau Olympaidd Arbennig a dwy fedal Aur, un fedal Arian a dwy fedal Efydd i’w enw.
Nawr, mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi rhoi £250 tuag at daith Matthew.
“Mae Matthew yn fyfyriwr gwych ac rydyn ni’n falch dros ben ein bod ni’n gallu ei helpu yn ariannol i fynd i Gemau’r Byd”, dywedodd y darlithydd Karen McDonald. “Mae e bob amser yn frwdfrydig ac mae e’n gwneud yn dda iawn yn ei brofiad gwaith yn llyfrgell y coleg. Rydym yn dymuno’n dda iddo yn Los Angeles.”
Gyda 7,000 o athletwyr a 3,000 o hyfforddwyr yn cynrychioli 177 o wledydd, ynghyd â 30,000 o wirfoddolwyr a 500,000 o wylwyr disgwyliedig, Gemau Olympaidd Arbennig y Byd 2015 fydd y digwyddiad chwaraeon a dyngarol mwyaf yn y byd yn 2015, a’r digwyddiad unigol mwyaf yn Los Angeles ers Gemau Olympaidd 1984.