Roedd Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol Coleg Gŵyr Abertawe, Sarah King, wedi ennill teitl Cyfarwyddwr AD y Flwyddyn yng Ngwobrau AD Cymru 2018 mewn seremoni fawreddog yng Ngwesty’r Gyfnewidfa, Caerdydd ddydd Gwener.
Y seremoni wobrwyo – sy’n cydnabod ac yn dathlu llwyddiannau gweithwyr proffesiynol a chyflogwyr Adnoddau Dynol ledled Cymru – yw’r digwyddiad pwysicaf yn Rhwydwaith AD Cymru, grŵp proffesiynol blaengar sy’n rhwydweithio ac yn rhannu syniadau, a grëwyd ac a reolir gan y cwmni cyfreithiol Darwin Gray yng Nghaerdydd ac Acorn, prif arbenigwyr recriwtio Cymru.
Cyrhaeddodd Coleg Gŵyr Abertawe y rownd derfynol mewn tri chategori – gan gynnwys Cyflogwr y Flwyddyn – am ei ymrwymiad a’i ymroddiad sefydliadol yn dilyn y tân ar Gampws Tycoch ym mis Hydref 2016.
Ar ôl ennill teitl Cyfarwyddwr AD y Flwyddyn – dim ond un o bump i gyrraedd y rownd derfynol ar gyfer y wobr – dywedodd Sarah: “Dwi wrth fy modd fy mod i wedi ennill y wobr hon. Mae’n anrhydedd. Dwi’n wirioneddol ffodus i weithio mewn lle mor wych. Mae ymrwymiad go iawn yng Ngholeg Gŵyr Abertawe i gydnabod staff ac i fuddsoddi yn eu llesiant. Dwi’n edrych ymlaen at barhau i ddatblygu strategaeth sy’n canolbwyntio ar yr agweddau allweddol hyn ar Adnoddau Dynol ac i gyflwyno mentrau newydd dros y deuddeg mis nesaf.”
Yn siarad am lwyddiant Sarah, dywedodd Pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe, Mark Jones: “Dwi wrth fy modd gyda’r wobr hon ar gyfer Sarah ei hun ac i’r Coleg. Yn y cyfnod cymharol fyr mae Sarah wedi bod gyda ni, mae hi eisoes wedi cael effaith anferth ar draws y Coleg gyda’i hymagwedd gadarnhaol a rhagweithiol, yn ogystal â’i ffocws cryf ar lesiant staff. Mae’r wobr hon yn gydnabyddiaeth haeddiannol o’r ymdrech a’r ymrwymiad ‘na.”
I gael rhagor o wybodaeth am y gwobrau, ewch i www.waleshrawards.cymru