Gweithrediadau Logisteg Lefel 3 - Cymhwyster
Trosolwg
Bydd y cymhwyster Lefel 3 hwn yn rhoi modd i ddysgwyr arddangos a chydnabod eu sgiliau, eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth i ddangos eu bod yn gallu gweithio mewn amgylchedd logisteg. Rhaid bod ymgeiswyr yn gweithio mewn amgylchedd logisteg a’u bod yn awyddus i symud ymlaen i rolau goruchwylio, arwain tîm a rheoli.
Ar gyfer cymhwyster Lefel 3 bydd angen prawf o gymhwysedd ar draws unedau gorfodol ac opsiynol.
Gwybodaeth allweddol
Ar gyfer cymhwyster Lefel 3 bydd angen prawf o gymhwysedd ar draws unedau gorfodol ac opsiynol.
Addysgir y cymwysterau trwy ddysgu seiliedig ar waith, a fydd yn cynnwys sesiwn un-i-un bob 4-6 wythnos ar amser sy’n gyfleus i’r dysgwr a’r cyflogwr.
Unedau gorfodol
- Iechyd a diogelwch yn y gwaith
- Gwneud y gorau o’r defnydd o adnoddau logisteg
- Cyfrannu’n effeithiol at fusnes yn y sector logisteg
Unedau dewisol
- Gwella perfformiad mewn gweithrediadau logisteg
- Dyrannu a gwirio gwaith yn eich tîm
- Cynnal diogelwch nwyddau peryglus
- Goruchwylio derbyn, storio neu ddosbarthu nwyddau
- Lleihau effaith amgylcheddol gweithrediadau logisteg
- Trefnu i gludo nwyddau gan ddefnyddio dulliau cludo amryfal
- Trefnu gweithrediadau logisteg i fodloni gofynion cwsmeriaid
- Cyfrannu at ddarpariaeth gwasanaeth cwsmeriaid
- Sicrhau cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol, moesegol a chymdeithasol
- Ymateb i broblemau
- Defnyddio technoleg
Er mwyn cwblhau’r cymhwyster yn llwyddiannus, bydd dysgwyr yn cael eu hasesu yn erbyn set o feini prawf perfformio a gwybodaeth sy’n deillio o’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol i’r rhai sy’n gweithio mewn amgylchedd logisteg.
Wrth i ddysgwyr symud trwy’r cymhwyster, byddan nhw’n creu e-bortffolio o’r dystiolaeth sy’n digwydd yn naturiol o’r gweithgaredd ymarferol a wneir yn y gweithle er mwyn arddangos gwybodaeth a chymhwysedd.
Mae’r dulliau asesu yn cynnwys:
- Cwestiynau ac ateb
- Arsylwadau
- Tystebau
- Tystiolaeth seiliedig ar waith
- Astudiaethau achos
- Trafodaeth broffesiynol