Mae gan Goleg Gŵyr Abertawe yr unig Academi Pêl-droed Pro:Direct a’r cyntaf yng Nghymru.
Mae Academi Pêl-droed De Cymru Pro:Direct yn rhoi modd i chwaraewyr hyfforddi’n amser llawn fel chwaraewyr proffesiynol, wrth astudio un o gyrsiau niferus y Coleg sy’n cyd-fynd â’r slotiau a’r gemau hyfforddi. Y cyrsiau mwyaf poblogaidd yw Tystysgrif Estynedig/Diploma Cenedlaethol mewn Pêl-droed, Hyfforddi a Pherfformiad (Gwerth un/tri chymhwyster Safon Uwch).
Buddion
- Hyfforddiant a gemau
- Sesiynau hyfforddi ddyddiol
- 12-14 awr o hyfforddiant gydag UEFA A a hyfforddwyr trwyddedig y Gymdeithas Bêl-droed bob wythnos
- Gemau cystadleuol wythnosol yn Uwch Gynghrair ECFA
- Ffilm VEO a dadansoddiad
- Rhaglenni ffitrwydd, adferiad a deiet ar lefel broffesiynol
- Mynediad ffisiotherapi
- Cynlluniau deiet a chyngor ar faeth
- Hyfforddiant cryfder a chyflyru, cynlluniau campfa a sesiynau ffitrwydd
- Dilyniant
- Rhaglenni i ddatblygu chwaraewyr tuag at ennill Contract Proffesiynol
- Llwybrau i brifysgolion y DU neu ysgoloriaethau pêl-droed yr Unol Daleithiau
- Cyfleoedd eraill
- Pecynnau ysgoloriaeth elit
- Profiad gwaith a chyfleoedd cyflogaeth
- Tocynnau gemau, teithiau o gwmpas stadiymau, gwibdeithiau, siaradwyr gwadd a gweithdai
- Cyfleoedd a digwyddiadau brand Nike
- Codau disgownt Pêl-droed Pro:Direct
Hyfforddwyr
Richard South, Pennaeth Academi De Cymru PDA a Rheolwr y Tîm 1af
Ymunodd Richard yn 2003, gan helpu i uno carfannau Abertawe a Gorseinon i greu Academi Pêl-droed Coleg Gŵyr Abertawe.
Mae gan Richard gyfoeth o brofiad, ar ôl gweithio i Ysgolion Pêl-droed Manchester United a Chlwb Pêl-droed Dinas Abertawe am dros 10 mlynedd. Mae hefyd wedi hyfforddi chwaraewyr dramor yn America, Asia ac Ewrop.
Andrew Stokes, Prif Hyfforddwr De Cymru PDA
Yn gyn-fyfyriwr y Coleg, bu Andrew yn rhan annatod o’r Academi ers 2014. Mae wedi gweithio i Ysgolion Pêl-droed Manchester United, Bechgyn Ysgol Abertawe a Dinas Abertawe ac mae wedi hyfforddi chwaraewyr dramor yn America, Asia, Affrica ac Ewrop.
Mae Andrew yn meddu ar Drwydded UEFA A ac mae’n Addysgwr Hyfforddwr i Gymdeithas Pêl-droed Cymru yn ogystal â Rheolwr Cynghrair JD Cymru.
Ymunwch yr academi
Rydyn ni’n chwilio am y chwaraewyr gorau i ymuno â’r Academi hon. Os oes gennych ddiddordeb neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, e-bostiwch southwales@prodirectacademy.com.
Gallwch chi ddilyn yr Academi ar Instagram neu Twitter hefyd.