Tai Lefel 4 - Tystysgrif (CIH)
Trosolwg
Bwriad y cymhwyster hwn yw datblygu sgiliau astudio uwch a meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth helaeth o’r sector tai trwy astudio ystod o bynciau gwahanol. Bydd y cwrs yn archwilio meysydd megis polisïau, cyfreithiau ac ymarfer proffesiynol sy’n gysylltiedig â’r sector tai, a bydd hyn yn hwyluso eich twf personol a’ch ymgysylltiad â dysgu a thai.
Trwy gydol y cwrs, byddwch yn cael cyfle i fyfyrio yn feirniadol ar bolisïau ac ymarfer y sector tai.
Mae’r cymhwyster Lefel 4 hwn yn addas ar gyfer gweithwyr profiadol ym maes tai sydd wedi bod yn gweithio ar lefel reoli. Mae hefyd yn addas ar gyfer unigolion sy’n dymuno gweithio fel goruchwylwyr, unigolion sydd am ddatblygu sgiliau uwch neu unigolion nad oes ganddynt lawer o brofiad o reoli tai na phrofiad o weithio mewn rolau goruchwylio.
Gall dysgwyr sydd eisoes wedi cwblhau Tystysgrif CIH Lefel 3 mewn Tai yn gallu symud ymlaen i’r cymhwyster hwn.
Gwybodaeth allweddol
I astudio’r cymhwyster hwn, rhaid i chi fod yn gweithio ym maes tai neu faes cysylltiedig.
Bydd gwybodaeth graidd y cymhwyster hwn yn cael ei gyflwyno dros gyfnod o 12 mis drwy sesiynau undydd, bob chwe wythnos. Bydd gan ddysgwyr fynediad at adnoddau ar-lein a byddant yn gweithio gyda hyfforddwr a fydd yn cynnig cymorth un-i-un trwy gydol y cymhwyster.
Gallwn gynnig gweithdai wyneb yn wyneb yn eich gweithle neu yn y Coleg*, yn ogystal â chynnig darpariaeth o bell, a fydd yn rhoi cyfle i chi ymgysylltu ag eraill yn y diwydiant tai fel y gallwch rwydweithio a rhannu arferion gorau.
*Yn dibynnu ar niferoedd y sefydliad.
Unedau
Mae unedau’r cwrs hwn yn cynnwys:
- Gwasanaethau rheoli tai
- Polisïau tai
- Ymarfer proffesiynol ym maes tai
- Yr angen a’r galw am dai a chyflenwad tai
- Cyllidebu ar gyfer tai
- Cyfreithiau tai
I gwblhau’r cymhwyster hwn yn llwyddiannus, bydd dysgwyr yn ymgymryd ag aseiniad ar ddiwedd pob modiwl i arddangos eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth. Bydd asesiadau yn amrywio o uned i uned, a byddant yn cynnwys gweithgareddau yn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt.
Trwy gydol y cwrs, byddwn yn hyrwyddo ac yn gwella eich sgiliau ysgrifennu academaidd, sgiliau TGCh yn ogystal â sgiliau cydweithio a chyflwyno personol.