Gweithgareddau Ailgylchu Cynaliadwy Lefel 2 (CIWM) – Diploma
Trosolwg
Mae’r cymhwyster hwn yn datblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar weithwyr i weithio yn unol â gofynion y diwydiant ailgylchu ar gyfer casglu, derbyn a gwahanu, prosesu a gweithgareddau WEEE.
Gall dysgwyr ddewis pa lwybr sydd fwyaf addas ar gyfer eu rôl swydd bresennol, fel eu bod yn gymwys i weithio ar y safle.
Gwybodaeth allweddol
Nid oes gofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cymhwyster hwn, ond bydd angen i ddysgwyr fod yn gyflogedig mewn swydd addas gan ei fod yn cael ei asesu ‘yn y swydd’.
Bydd aseswr yn ymweld â gweithle’r dysgwr i arsylwi ei waith ‘yn y swydd’ bob pedair i chwe wythnos. Bydd yr ymweliadau yn digwydd ar sail un-i-un i weddu i anghenion y dysgwr a’r cyflogwr. Bydd aseswyr yn gosod tasgau, darparu cymorth a’ch arwain trwy’r cymhwyster.
Unedau gorfodol
- Hyrwyddo cynaliadwyedd ac arferion da amgylcheddol yn y diwydiant ailgylchu
- Meithrin cysylltiadau â chydweithwyr a phobl eraill
- Cydymffurfio â phrosesau a gweithdrefnau iechyd a diogelwch yn y gweithle
- Annog gwasanaethau ailgylchu trwy hyrwyddo
- Datblygu perfformiad personol
Unedau dewisol
Gall dysgwyr ddewis y llwybr cyffredinol neu un o’r pedwar llwybr proffesiynol:
- Casglu
- Derbyn a gwahanu
- Prosesu
- WEEE
Os bydd dysgwyr yn dewis llwybr penodol, bydd teitl y grŵp llwybr i’w weld ar eu tystysgrif derfynol.
Gweithgareddau Ailgylchu Cynaliadwy Lefel 3 (CIWM, Wamitab) - Diploma
Wrth i ddysgwyr symud trwy’r cymhwyster, byddan nhw’n adeiladu e-bortffolio o dystiolaeth sy’n digwydd yn naturiol o’r gweithgareddau ymarferol a wnaed yn y gweithle i ddangos gwybodaeth a chymhwysedd. Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu, gan gynnwys:
- Cwestiynau ac atebion
- Arsylwadau
- Tystebau
- Tystiolaeth gweithle
- Astudiaethau achos
- Llyfrau gwaith
- Trafodaeth broffesiynol