Busnes, Cyfrifeg a’r Gyfraith
Ar ôl cwblhau’ch cymwysterau gallech ddefnyddio’ch sgiliau trosglwyddadwy i gael hyd i gyflogaeth yn y sector busnes a chyllid sy’n tyfu.
Neu, gallech ddewis aros yn y Coleg ac astudio cwrs addysg uwch cysylltiedig gyda ni.
Coleg Gŵyr Abertawe yw’r unig goleg addysg bellach yn y DU i ennill statws Partner Dysgu Cymeradwy Platinwm gan ACCA (Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig).
Llwybrau gyrfa
- Datblygu busnes
- Banciwr buddsoddi
- Dadansoddwr data
- Cyfrifydd siartredig
- Entrepreneur
- Cyfreithiwr corfforaethol
- Rheolwr prosiect.
Sicrhau eich dyfodol
Mae gennym y cyfleoedd dilyniant canlynol yn y Coleg:
- Busnes - Cwrs Carlam Lefel 3
- HND/BA (Anrh) mewn Rheolaeth Busnes
- Cymwysterau cyfrifeg AAT Lefelau 2-4
- Cymwysterau cyfrifeg ACCA Lefelau 4-7
Fel arall, gallech chi symud ymlaen i’r brifysgol neu gael cyflogaeth yn y diwydiant.
Chwilio am gwrs Busnes, Cyfrifeg a'r Gyfraith
Busnes a Gweinyddu Lefel 2 - Tystysgrif
Lefel 2 BTEC Diploma
Busnes Lefel 3 - Diploma Estynedig
Lefel 3 BTEC Extended Diploma
Busnes Lefel 3 gyda’r Sefydliad Marchnata Siartredig – Diploma
Lefel 3 BTEC Diploma
Busnes, Cwrs Carlam Lefel 3 - Diploma
Lefel 3 BTEC Diploma
Safon Uwch Astudiaethau Busnes
Lefel 3 A Level
Safon Uwch Cyfrifeg
Lefel 3 A Level
Safon Uwch Economeg
Lefel 3 A Level
Safon Uwch Y Gyfraith
Lefel 3 A Level
Newyddion
Myfyriwr y Flwyddyn Busnes 2024 – Dragos Negrea
Mae Dragos wedi bod yn gyson ardderchog yn ystod ei gwrs Tystysgrif Estynedig Genedlaethol Lefel 3 mewn Busnes.
Mae wedi bod yn drylwyr yn ei aseiniadau, wedi rhagori ym mhob un o’i arholiadau ac wedi arwain y ffordd yn ei weithgareddau Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch yng Nghoedwig Cwm Penllergaer.
Heledd yn cael blas ar lwyddiant
Mae’r myfyriwr Busnes Coleg Gŵyr Abertawe, Heledd Hunt, yn brysur yn jyglo ei hastudiaethau Lefel 3 a rhedeg ei chwmni ei hun.
“Mae astudio busnes yn y Coleg wedi bod yn fanteisiol dros ben,” meddai. “Mae wedi rhoi cyfle i mi ennill llawer mwy o wybodaeth am gamau ymarferol rhedeg menter lwyddiannus.”