Egwyddorion Gweithgareddau Ailgylchu Cynaliadwy Lefel 3 (Wamitab) – Tystysgrif
Trosolwg
Mae’r cymhwyster yn datblygu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i weithio yn unol â gofynion y diwydiant ailgylchu. Mae’n addas i’r rhai sy’n gweithio ar lefel arweinydd tîm/goruchwyliwr neu weithwyr profiadol sydd am ddatblygu eu gyrfa.
Mae’r cymhwyster yn darparu’r sgiliau sydd eu hangen i weithio yn unol â gofynion y diwydiant ailgylchu ar gyfer gweithgareddau casglu, derbyn, gwahanu a phrosesu yn ogystal â gweithgareddau Ailgylchu Offer Trydanol ac Electronig Gwastraff.
Gwybodaeth allweddol
Addysgir y cymhwyster trwy gyfuniad o ddysgu yn y gweithle ac yn yr ystafell ddosbarth, wyneb yn wyneb neu ar-lein, yn ogystal â sesiynau un-i-un gyda’ch tiwtor.
Gellir addysgu’r rhaglen yn hyblyg, i weddu i anghenion y dysgwr a’r cyflogwr.
Unedau gorfodol
- Sut i weithio’n ddiogel yn y diwydiant gwastraff/ailgylchu
- Deall gwarchodaeth amgylcheddol yn y diwydiant gwastraff ac ailgylchu
- Sut i nodi a datrys anghydfodau
- Deall egwyddorion y diwydiant gwastraff/ailgylchu
- Deall egwyddorion nodi a dosbarthu gwastraff
- Deall ‘dyletswydd gofal’ yn y diwydiant gwastraff/ailgylchu
- Cynllunio, dyrannu a monitro gwaith tîm
- Hawliau a chyfrifoldebau cyflogaeth yn y sector ynni a chyfleustodau
Unedau dewisol
Bydd dysgwyr yn dewis nifer o unedau dewisol o blith amrywiaeth o grwpiau, gan gynnwys:
- Deall polisi a deddfwriaeth yn y diwydiant rheoli gwastraff
- Deall y gofynion ar gyfer cludo gwastraff
- Deall systemau rheoli
- Gwybod am dechnolegau trin gwastraff
- Deall y targedau a’r rhesymau am ailgylchu
- Deall y systemau gweithredol a’r gweithdrefnau yn y diwydiant gwastraff/ailgylchu
Defnyddir amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys:
- Llyfrau gwaith
- Astudiaethau achos
- Aseiniadau
- Trafodaeth broffesiynol