Skip to main content

Llyfrau Amlgyfrwng

Rhan-amser, GCS Training
Llys Jiwbilî
Tair awr

Trosolwg

Mae Book Creator yn rhaglen amlbwrpas, rhad ac am ddim a ddefnyddir i greu llyfrau amlgyfrwng, integreiddio testun, delweddau, sain a fideo. Mae’r rhyngwyneb hawdd ei ddefnyddio a’r opsiynau addasu yn galluogi defnyddwyr i greu cynnwys digidol deniadol at ddibenion megis addysg, adrodd straeon a chyflwyniadau. Mae’n meithrin cydweithio trwy gynnig llyfrau y gellir eu rhannu a’u golygu, gan hybu gwaith tîm a chreadigrwydd. Mae HeyZine, rhaglen ‘freemium’ arall, yn cynnig gwasanaeth tebyg o ran creu llyfrau, cylchgronau a chyflwyniadau amlgyfrwng. Yn ystod y gweithdy, bydd dysgwyr yn cael cyfle i greu llyfrau amlgyfrwng, gan archwilio nodweddion megis templedi, creu llyfrau neu gylchgronau, mewnosod cyfryngau a dogfennau a rhannu a chydweithio. Erbyn diwedd y sesiwn, bydd dysgwyr wedi ennill sgiliau a fydd yn eu galluogi i greu llyfrau digidol rhyngweithiol trwy ddefnyddio’r rhaglen bwerus hon.

Gwybodaeth allweddol

Y gallu i ddefnyddio cyfrifiadur ar lefel sylfaenol.

Wyneb yn wyneb ar gampws Llys Jiwbilî.

Gweithdai digidol eraill a ddarperir gan Goleg Gwyr Abertawe.

Multimedia Books
Cod y cwrs: YA201 ST
24/10/2024
Plas Sgeti
1 day
Thurs
1-4pm
£0
Amhriodol