Office 365 Sway Gwefan
Ffôn 01792 284400 E-bost: Skills4Swansea@gcs.ac.uk
Trosolwg
Meddalwedd creu tudalennau gwe gan Office 365 yw Sway. Mae rhyngwyneb y rhaglen yn symleiddio’r broses o grwpio cyfryngau a chreu cynnwys rhyngweithiol. Yn ogystal, mae’n caniatáu i ddefnyddwyr addasu themâu er mwyn sicrhau cysondeb gweledol. Mae Sway yn caniatáu i bobl rhannu eu gwaith, cydweithio a hybu gwaith tîm trwy’r gosodiad adborth byw. Bydd y sesiwn hon yn ymdrin â fformatio dogfennau Word er mwyn eu defnyddio fel tudalennau gwe, manteision defnyddio Sway, mewnbynnu delweddau, fideos, sain a thestun, grwpio cyfryngau, creu cynnwys rhyngweithiol ac addasu themâu. Byddwch yn dysgu sut i dddenfyddio Sway fel meddalwedd cyflwyno, gan wneud y mwyaf o osodiadau rhannu a chydweithio. Yn y bôn, mae Sway yn cynnig platfform hawdd i greu cyflwyniadau rhyngweithiol a deniadol sy’n addas ar gyfer addysgwyr, gweithwyr proffesiynol a chrewyr cynnwys.
Gwybodaeth allweddol
Y gallu i ddefnyddio cyfrifiadur ar lefel sylfaenol.
Wyneb yn wyneb ar gampws Llys Jiwbilî.
Gweithdai digidol eraill a ddarperir gan Goleg Gwyr Abertawe.