Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch o gyhoeddi ystod newydd cyffrous o gyrsiau wedi’u hariannu’n llawn fel rhan o brosiect Sgiliau ar gyfer Abertawe, gan barhau â’i genhadaeth i rymuso unigolion trwy roi’r sgiliau a’r wybodaeth iddynt ffynnu yn y farchnad swyddi heddiw sy’n newid drwy’r amser.
Yn adeiladu ar y galw am gyrsiau y llynedd, mae Sgiliau ar gyfer Abertawe yn cynnig cyfres gynhwysfawr o raglenni wedi’u dylunio i helpu unigolion i ddatblygu sgiliau newydd, cynyddu unrhyw gyfleoedd cyflogaeth sydd ar gael yn yr ardal, a bodloni galwadau’r economi leol. Mae’r cyrsiau am ddim ac ar gael i bobl 19 oed a hŷn sy’n byw neu’n gweithio yn Abertawe, gan sicrhau bod trigolion a chyflogwyr lleol yn cael mynediad uniongyrchol at gyfleoedd uwchsgilio sy’n gallu gwneud byd o wahaniaeth.
Mae’r prosiect yn cadarnhau ymrwymiad parhaus Coleg Gŵyr Abertawe i gynorthwyo oedolion sy’n ystyried ailhyfforddi, uwchsgilio neu ddilyn llwybrau gyrfa newydd. Gyda dealltwriaeth ddofn o anghenion unigryw economi a gweithlu Abertawe, mae’r Coleg yn parhau i addysgu detholiad eang o gyrsiau wedi’u teilwra i ofynion diwydiant lleol.
Ymhlith y cyrsiau sydd ar gael mae:
- Sgiliau Digidol
- Offer Office 365
- Deallusrwydd Artiffisial, Canva a Chynnwys Amlgyfrwng
- Rheoli Prosiect
- Rheoli Cyfleusterau
- Ynni Gwyrdd a Chynaliadwyedd
- Iechyd a Diogelwch (gan gynnwys NEBOSH ac IOSH).
Edrychwch ar y cyrsiau ar dudalen Sgiliau ar gyfer Abertawe i wybod rhagor am y dyddiadau.
Dywedodd Bruce Fellowes, Pennaeth Hyfforddiant GCS:
“Dwi’n falch bod y Coleg eto yn gallu cynnig amrywiaeth o gyrsiau, wedi’u hariannu’n llawn i’r rhai sy’n byw neu’n gweithio yn Ninas a Sir Abertawe. Y llynedd, fe wnaeth y Gronfa Ffyniant Gyffredin roi cyfle i dros ddwy fil o unigolion yn Abertawe fanteisio ar hyfforddiant i ennill sgiliau newydd, i wella eu rhagolygon gwaith neu fod yn fwy medrus yn eu swydd bresennol. Rydyn ni’n gobeithio uwchsgilio mwy o unigolion dros y chwe mis i wella sgiliau pobl Abertawe ymhellach.”
Ychwanegodd Geraint, a ddilynodd gwrs NEBOSH Rheoli Risgiau ac Asesu Risg fel rhan o’r fenter:
“Fe wnaeth y cwrs hwn wella fy sgiliau yn fy rôl mewn dysgu seiliedig ar waith. Mae hwn yn gwrs cydnabyddedig a fydd yn dda i ddatblygu fy ngyrfa. Dysgais i bryd i weithredu asesiadau risg ac roedd yn ddiddorol dysgu sut mae asesiadau risg yn amrywio mewn diwydiannau gwahanol.”
I wybod rhagor am y cyrsiau neu i gael ateb i’ch cwestiynau, cysylltwch â ni:
E-bost: Skills4Swansea@gcs.ac.uk Ffôn: 01792 284400
Yn ogystal, gallwch ddysgu rhagor am brosiect Sgiliau ar gyfer Abertawe a’r cyrsiau sydd ar gael yn ein Noson Agored Addysg Oedolion, sy’n cael ei gynnal ddydd Mawrth 9 Medi ar Gampws Tycoch.
Mae Sgiliau ar gyfer Abertawe ar gael i’r rhai sy’n 19 oed a hŷn sy’n byw neu’n gweithio yn Abertawe.
Ariennir y prosiect hwn gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.