

Ydych chi’n barod i ddarganfod cyfleoedd newydd i wella eich sgiliau? Dyna yw nod Sgiliau ar gyfer Abertawe, menter arloesol newydd gan Goleg Gŵyr Abertawe.
Cynlluniwyd y rhaglen i rymuso a gwella sgiliau cyflogadwyedd unigolion sy’n byw yn Abertawe. Mae’r fenter yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau am ddim* sydd wedi’u teilwra i fodloni gofynion yr economi leol sy’n newid yn barhaus.
Mae’r Coleg wedi ymrwymo i gefnogi unigolion 19 oed a hŷn ar eu taith at ailhyfforddi ac uwchsgilio. Gan ein bod yn meddu ar ddealltwriaeth gynhwysfawr o’r dirwedd economaidd leol, rydym wedi creu cyfres o gyrsiau sydd wedi’u cynllunio i fynd i’r afael ag anghenion perthnasol y diwydiant.
Dyma restr o’r cyrsiau sydd ar gael:
Sgiliau Digidol:
- DA a Canva ar gyfer Elusennau a busnesau bach
- DA ac Offer Digidol am ddim ar gyfer Addysg
- Canva
- Llyfrau Amlgyfrwng
- Cyflwyniad i e-Chwaraeon a’r Cyfryngau Cymdeithasol
- Cyflwyniad i e-Chwaraeon a Brandio
- TikTok i Ddechreuwyr
- Adeiladu’ch Brand gyda SEO, Ymchwil Allweddeiriau a Chynnwys
- Hwyluso Rheolaeth Prosiect
Office 365 Offer:
Iechyd a Diogelwch:
- Dyfarniad NEBOSH mewn Ymwybyddiaeth Amgylcheddol yn y Gwaith
- Dyfarniad NEBOSH mewn Asesu Risg Codi a Chario
- Dyfarniad NEBOSH mewn Rheoli Risgiau ac Asesu Risg
- Tystysgrif NEBOSH mewn Rheoli Straen yn y Gwaith
- IOSH Rheoli’n Ddiogel
Gwasanaeth Cwsmeriaid:
Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, credwn mai addysg yw conglfaen twf personol a phroffesiynol. Trwy Sgiliau ar gyfer Abertawe, rydym yn ceisio gwella hygyrchedd addysg o safon, gan rymuso unigolion i ffynnu mewn byd sy’n newid ar raddfa barhaus.
Yn y byd prysur sydd ohoni, mae aros yn berthnasol ac yn addasadwy yn allweddol. Gall Sgiliau ar gyfer Abertawe wella eich sgiliau ar gyfer y dyfodol fel y gallwch fanteisio ar gyfleoedd yn hyderus.
Grymuswch eich hun. Cyfoethogwch eich dyfodol. Cofrestrwch heddiw!
Mae Sgiliau ar gyfer Abertawe yn addas ar gyfer unigolion 19+ sy’n byw neu’n gweithio yn Abertawe.
I gael rhagor o wybodaeth am y fenter neu i gael atebion i’ch ymholiadau, cysylltwch â:
E-bost: Skills4Swansea@gcs.ac.uk | Ffôn: 01792 284400