Skip to main content
Students

Y Gronfa Arloesi yn gyfrwng i ymchwil STEM cyffrous

Students

Mae myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe yn cychwyn ar amrywiaeth o brosiectau ymchwil STEM cyffrous, diolch i'r Gronfa Arloesi a Chynllun Addysg Beirianneg Cymru (EESW). Mae'r prosiectau wedi cynnig modd i fyfyrwyr gydweithio â Tidal Lagoon (Swansea Bay) plc a Dŵr Cymru/Welsh Water i gael hyd i atebion i broblemau go iawn a wynebir gan ddiwydiant.

Gan gydweithio'n agos â chynrychiolwyr o'u cwmnïau partner, aeth y myfyrwyr ati i weithio mewn timau i gynnal eu hymchwil gwyddonol a pheirianyddol. Ym mis Rhagfyr daeth eu dyluniadau nhw yn fyw pan gawsant gyfle i ddefnyddio labordai Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ym Mount Pleasant i lunio prototeipiau.

Ar sail eu hymchwil bydd y myfyrwyr yn ennill y wobr uchel ei chanmoliaeth, Gwobr Aur CREST gan Gymdeithas Wyddoniaeth Prydain, a byddan nhw'n mynd ymlaen i gyflwyno casgliadau eu hymchwil i gynulleidfa o wyddonwyr, peirianwyr a chwmnïau yn ffair wyddoniaeth 'The Big Bang', digwyddiad o fri sy'n cael ei gynnal yn y Celtic Manor ym mis Mawrth.

Mae Amy Herbert, Stewart McConnell a David Bawden wedi cydweithio â Chynllun Addysg Beirianneg Cymru (wedi'i ariannu gan Swyddfa Gyllid Ewropeaidd Cymru) i gydlynu'r prosiectau ymchwil hyn.

Tynnwyd y lluniau atodedig yn labordai Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant gyda'r myfyrwyr ynghyd â Stewart McConnell, Amy Herbert a thîm Tidal Lagoon.