Skip to main content

Addysg Sylfaenol i Oedolion

Saesneg, Mathemateg a Chyfrifiadura Hanfodol

Dewch i wella eich sgiliau Saesneg, Mathemateg a Chyfrifiadura. Magwch hyder ar gyfer gwaith, addysg bellach, neu ddatblygiad personol.

Mae’r cyrsiau hyn yn addas i’r rhai sydd am wella eu hyfedredd mewn Saesneg, Mathemateg a Chyfrifiadura a magu hyder. P’un a ydych am helpu’ch plant gyda gwaith cartref, ennill cymwysterau i wella cyflogadwyedd, neu newid gyrfa, mae ein rhaglenni wedi’u teilwra i’ch anghenion chi.

  • Hoffech chi wella’ch llythennedd digidol, ar gyfrifiadur, ffôn symudol neu lechen?
  • Efallai fod angen i chi fireinio eich atalnodi, sillafu, a gramadeg neu baratoi ar gyfer cyfweliadau.
  • Ydy eich biliau cartref yn peri dryswch i chi neu a hoffech gael cymorth i wybod sut i chwilio am y fargen orau?  

Beth bynnag yw’ch rheswm, mae ein tîm o staff ymroddedig a phrofiadol yn barod i’ch helpu i gyrraedd eich nod.

Mae’r cyrsiau yn rhad ac am ddim, yn amodol ar gymhwystra.

lleoliad: Llwyn y Bryn

Caiff gwersi eu cynnal mewn ystafell ddosbarth gan ddefnyddio amrywiaeth eang o ddulliau addysgu.  

Hyd y cwrs: 

Dosbarthiadau AGORED Cymru - 2 awr yr wythnos am 10 wythnos (ar gyfer pob pwnc)  
Dosbarthiadau City & Guilds Sgiliau Hanfodol Cymru - 2 awr yr wythnos am 30 wythnos (ar gyfer pob pwnc).

Asesu:

  • AGORED Cymru:  Asesiad o waith cwrs - portffolio a chwblhau Cynllun Dysgu Unigol
  • City & Guilds Sgiliau Hanfodol Cymru:  Asesiad ysgrifenedig yn y dosbarth (pob lefel), a phrawf er mwyn cadarnhau ar gyfer Lefel 1 a Lefel 2 (ysgrifenedig neu ar-lein) a chwblhau Cynllun Dysgu Unigol. 

Ochr yn ochr â’n cyrsiau Addysg Sylfaenol i Oedolion, rydym hefyd yn cynnig cyrsiau sgiliau hanfodol eraill. Gweler ein cyrsiau isod, neu ewch i’n tudalen Addysg Oedolion i weld y rhestr lawn o’r hyn rydym yn ei gynnig i oedolion.