Skip to main content

Dilyniant i Addysg Bellach

Bwriedir ein cyrsiau Dilyniant i Addysg Bellach ar gyfer ymadawyr ysgol sy’n ansicr o’r llwybr galwedigaethol y maen nhw’n dymuno ei ddilyn.

Gall myfyrwyr roi cynnig ar amrywiaeth o bynciau gan gynnwys busnes, gofal plant, chwaraeon, gwyddor fforensig a gwasanaethau cyhoeddus.

Rydyn ni’n cynnig y cwrs ar dair lefel, pob un ar Gampws Tycoch.

  • Bydd y cwrs Mynediad i Addysg Bellach – Mynediad 3 yn datblygu’ch sgiliau, gan arwain at fwy o hyder a mwy o gyfleoedd o fewn y Coleg.
  • Ar Lefel 1, byddwch yn gallu rhoi cynnig ar amrywiaeth o bynciau i weld beth rydych chi’n ei fwynhau fwyaf – gallai’r rhain gynnwys busnes, arlwyo, garddwriaeth neu chwaraeon.
  • Mae’r cwrs Lefel 2 yn rhoi modd i chi ddatblygu’ch diddordebau mewn pynciau gan gynnwys iechyd, gwyddoniaeth, neu’r cyfryngau cymdeithasol.