Skip to main content

Cyfrifiadura, Technoleg ac e-Chwaraeon

Rydym yn cynnig cyrsiau Safon UG / Uwch mewn Cyfrifiadureg a TG. Mae cyrsiau ar gael ar Lefelau 1-3, gan roi modd i fyfyrwyr amser llawn gofrestru ar y cwrs sy’n briodol i’w cymwysterau presennol.

Mae myfyrwyr blaenorol wedi mynd ymlaen i astudio ystod eang o gyrsiau gradd cysylltiedig â TG neu gyfrifiadura yn y brifysgol gan gynnwys systemau gwybodaeth cyfrifiadurol, fforenseg gyfrifiadurol, datblygu gemau cyfrifiadurol a chyfrifiadureg.

Rydym hefyd yn cynnig cwrs HND mewn Cyfrifiadura Cymhwysol yn amser llawn.

Newyddion

Gwdihŵs CGA yn barod i ledu eu hadenydd yn Epic Lan 41

Gwdihŵs CGA yn barod i ledu eu hadenydd yn Epic Lan 41

Mewn cyhoeddiad hirddisgwyliedig, mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi datgelu y bydd tîm o fyfyrwyr o’u tîm e-Chwaraeon Gwdihŵs CGA yn ymddangos am y tro cyntaf yn Epic Lan 41, gan gystadlu yn nhwrnamaint Valorant.
Llun pen ac ysgwydd o ddyn

Darlithydd coleg yn siarad am lwyddiant e-Chwaraeon

Mae darlithydd Coleg Gŵyr Abertawe Kiran Jones yn mynd i arddangosfa BETT 2023 fel siaradwr arbennig. Bett 2023 yw’r arddangosfa technoleg addysg fwyaf yn y byd a bydd yn cael ei chynnal yn ExCel Llundain yn ystod 29-31 Mawrth. 
Myfyriwr wrth gyfrifiadur

Profi myfyrwyr dawnus mewn cystadleuaeth Technoleg

Yn ddiweddar, cynhaliodd Coleg Gŵyr Abertawe Ragbrawf Technoleg Cystadleuaeth Sgiliau Cymru ar Gampws Tycoch.