Skip to main content

Oedolion Ifanc sy'n Gofalu

Swyddogion Dynodedig Oedolion Ifanc sy’n Gofalu:
Ryan McCarley 
01792 284193 / 07917352153
ryan.mccarley@gowercollegeswansea.ac.uk 

Tamsyn Oates
01792 284071 / 07867135815
Tamsyn.Oates@gcs.ac.uk

Mae oedolyn ifanc sy’n gofalu (YAC) yn rhywun 16-25 oed sy’n gofalu, heb dâl, am aelod o’r teulu, ffrind neu bartner sydd â chyflwr iechyd neu iechyd meddwl, anabledd, neu sy’n gaeth i alcohol neu sylweddau.

Mae pob YAC yn ymgymryd â chyfrifoldebau* ymarferol a/neu emosiynol di-dâl a fyddai’n cael eu cyflawni gan oedolyn fel arfer. Mae gofalwyr ifanc yn aml yn teimlo nad ydynt ond yn gwneud eu dyletswydd i’r teulu, neu’n gwneud tasgau y byddai unrhyw un arall yn eu gwneud. Gall hyn olygu nad yw eu cyfrifoldebau yn cael eu cydnabod gan ffrindiau, ysgolion a cholegau ac nid ydynt bob tro yn cael y cymorth sydd ar gael iddynt.

*Er enghraifft, coginio a gwaith tŷ, rheoli cyllidebau, helpu gyda meddyginiaeth, trefnu a mynd i apwyntiadau meddygol, darparu cymorth emosiynol a gofal personol, megis helpu rhywun i wisgo ac ymolchi.

Mae Swyddog Dynodedig y Coleg ar gyfer YAC yn ceisio

  • Gweithredu fel y prif bwynt cyswllt ar gyfer staff y Coleg, sefydliadau allanol, gofalwyr ifanc a’u teuluoedd sydd yn holi ynghylch cymorth YAC yn y Coleg
  • Sicrhau bod pob YAC yn ymwybodol o’r Swyddog Cymorth Myfyrwyr sy’n gysylltiedig â’i gwrs fel y gallan nhw gwrdd a thrafod unrhyw gymorth yr hoffen nhw ei gael yn y Coleg
  • Rhoi’r holl gymorth posibl i bob YAC, meithrin perthnasau cadarnhaol, cynorthwyo gyda materion presenoldeb ac annog cadw a chyrhaeddiad
  • Chwalu unrhyw rwystrau i ddysgu y mae gofalwyr ifanc yn eu hwynebu
  • Cynyddu ymwybyddiaeth ymysg staff a myfyrwyr o rôl YAC
  • Cysylltu â’r tîm Derbyn yn ystod y broses dderbyn i sicrhau bod pob YAC sy’n gwneud cais i astudio yn y Coleg yn cael ei adnabod yn gynnar a datblygu strategaethau newydd i adnabod YAC presennol yn y Coleg
  • Sicrhau bod gan YAC yr un cyfle i fynychu gweithgareddau addysgol, adlonianol a chymdeithasol o fewn y Coleg
  • Cydgysylltu ag Ymddiriedolaethau Gofalwyr i sefydlu perthynas waith effeithiol ac annog cymorth unedig i bob YAC.