Dilyniant i Addysg Bellach Lefel 2
Trosolwg
Mae’r cwrs blwyddyn hwn yn addas i unrhyw un rhwng 16 ac 19 oed sy’n ansicr ynghylch y llwybr gyrfa yr hoffai ei ddilyn. Mae’r cwrs hwn yn cynnig cyfle i flasu amrywiaeth o bynciau gwahanol. Gallai’r rhain gynnwys:*
- Materion iechyd
- Astudiaeth wyddonol
- Systemau’r corff dynol
- Defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i sicrhau newid
- Gwydnwch
- Ffotograffiaeth
- Traddodiadau a defodau Cymru
- Astudiaethau amgylcheddol.
*gallai hyn newid.
24/6/22
Gwybodaeth allweddol
Pedair gradd D ar lefel TGAU, gan gynnwys Saesneg, neu radd Teilyngdod o gwrs Diploma Lefel 1.
Addysgir y cwrs yn yr ystafell ddosbarth ac fe’i hasesir yn barhaus drwy aseiniadau. Does dim arholiadau. Bydd methu â dod i’r darlithoedd yn rheolaidd yn peryglu gallu’r myfyriwr i gwblhau’r cymhwyster llawn.
Cyrsiau Lefel 3 / cyrsiau Mynediad / prentisiaethau neu gyflogaeth
Ebost: AdvanceIntoFE@gcs.ac.uk