Skip to main content

Cymorth Amldriniaethol Lefel 3 - Cymhwyster

GCS Training
Lefel 3
AGORED
Llys Jiwbilî
15 mis
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Trosolwg

Mae’r cymhwyster hwn yn addas ar gyfer cynorthwywyr gofal iechyd sy’n gweithio’n bennaf ym maes gwasanaethau amldriniaethol yng Nghymru ac sy’n cynnig cymorth theatr yng Nghymru dan gyfarwyddyd ymarferydd cofrestredig.

I ymgymryd â’r cymhwyster hwn, rhaid i ddysgwyr fod yn gyflogedig gan wasanaethau iechyd Cymru mewn rôl lle mae sgiliau amldriniaethol yn rhan hanfodol o’u dyletswyddau. Cafodd y cymhwyster ei ddatblygu i wella llywodraethu arfer yng Nghymru trwy sicrhau ansawdd allanol.

Mae’r cymhwyster yn berffaith ar gyfer cynorthwywyr amldriniaethol uwch sy’n gweithio i GIG Cymru, ac mae disgwyl i holl staff cymorth gael cyfle i gwblhau’r cymhwyster a/neu gyflawni elfennau ohono at ddibenion datblygiad proffesiynol parhaus. Gallant yna hwyluso unrhyw newidiadau mewn ymarfer dros amser.

Gwybodaeth allweddol

Rhaid i ymgeiswyr fod yn 16+ i astudio’r cymhwyster hwn a bydd angen iddynt fod yn gweithio mewn rôl lle mae gofal amldriniaethol naill ai'n rhan o'u gwaith neu’n ymwneud yn llwyr ag ef.

Cyflwynir y cymhwyster trwy gefnogaeth 1:1 gydag aseswr. 

Rhaid cwblhau unedau gorfodol, gan ganiatáu i ddysgwyr ennill 67 credyd. 

Bydd gofyn i ddysgwyr greu portffolio tystiolaeth i arddangos eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a’u cymhwysedd wrth ymarfer.  

Bydd ystod o ddulliau asesu yn cael eu defnyddio, megis:

  • Arsylwadau uniongyrchol o ymarfer
  • Aseiniadau ysgrifenedig
  • Cwestiynau / trafodaethau proffesiynol

Unedau

  • Cynnal Safonau
  • Lleihau heintiau 
  • Rôl gylchredeg ar gyfer gweithdrefnau amlawdriniaethol
  • Sgiliau cyfathrebu 
  • Diogelu 

  • Mae dysgwyr sy'n cyflawni'r cymhwyster hwn yn gymwys i ymarfer rolau amlawdriniaethol ar Lefel 3
  • Nod y cymhwyster yw cynnig pwynt mynediad i addysg a sgiliau Lefel 4