Skip to main content

Datblygu Cymunedol Lefel 3 - Prentisiaeth

Prentisiaeth, GCS Training
Lefel 3
AGORED
Llys Jiwbilî
12 mis
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Trosolwg

Nod y cwrs Datblygu Cymunedol yw rhoi cyfle i ddysgwyr ddatblygu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i weithio’n effeithiol yn y gymuned. Mae’r rhaglen yn cyfrannu at y gymuned trwy gynhyrchu’r genhedlaeth nesaf o weithwyr cymunedol a swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu. 

Bwriedir y rhaglen yn bennaf i’r rhai sy’n gweithio yn y gymuned ac mae’n cydnabod y rhai sy’n ymwneud â’r sector cymunedol. Gellir ei defnyddio i uwchsgilio staff presennol neu recriwtio talentau newydd i sefydliad.

Gwybodaeth allweddol

Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio i’w haddysgu ochr yn ochr â chyflogaeth, profiad gwaith neu waith gwirfoddol, a gellir ei hariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru.

Bydd dysgwyr yn cael tiwtor/aseswr dynodedig a fydd yn gweithio’n agos gyda’r dysgwyr a’r cyflogwr i sicrhau bod yr unedau a ddewisir yn addas i’w rolau unigol a’u blaenoriaethau sefydliadol. Bydd y tiwtor/aseswr yn ymweld â’r dysgwyr bob 4-6 wythnos i asesu cynnydd a gosod amcanion ar gyfer y cyfnod nesaf.

Bydd dysgwyr yn derbyn gwaith seiliedig ar yr unedau maen nhw wedi’u dewis, a bydd disgwyl iddynt gasglu tystiolaeth o’u rôl o ddydd i ddydd i ddangos eu bod yn cymhwyso eu sgiliau newydd. Mae’n bosibl y bydd disgwyl iddynt fynychu gweithdai, yn dibynnu ar lwybr cyllid y cymhwyster.

Unedau gorfodol:

  • Gwerthoedd a phrosesau datblygu cymunedol
  • Deinameg grwpiau cymunedol
  • Arferion datblygu cymunedol myfyriol
  • Anghydraddoldeb cymdeithasol, anghyfiawnder ac amrywiaeth mewn cymunedau
  • Pennu anghenion cymunedol
  • Datblygu grwpiau cymunedol

Unedau dewisol:

  • Deall gweithio mewn partneriaeth mewn cymunedau
  • Trefnu digwyddiadau yn y gymuned
  • Datblygu a chynnal partneriaethau yn y gymuned 
  • Cynllunio prosiectau yn y gymuned

Er mwyn cwblhau’r cymhwyster yn llwyddiannus, bydd dysgwyr yn ymgymryd â gwaith sy’n berthnasol i’w rolau a’u hamgylchedd dysgu. Byddan nhw’n ennill yr wybodaeth, yr arfau a’r technegau cysylltiedig â phob uned ac yna byddan nhw’n eu rhoi nhw ar waith yn eu hamgylchedd gwaith presennol. Bydd y gwaith a roddwyd a’r dystiolaeth a gasglwyd yn cael eu hadolygu yn y cyfarfodydd un-i-un gyda thiwtoriaid/aseswyr a’u defnyddio at ddibenion asesu.